Dyn 32 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin
20/11/2023
Mae dyn 32 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd ar gyffordd B4336 rhwng Llanllwni a Llanfihangel-ar-arth am tua 21:55 ddydd Gwener.
Roedd cerbydau Vauxhall gwyn, BMW llwyd a Ford glas yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Cafodd pedwar person eu hanafu a'u cludo i'r ysbyty.
Bu farw'r dyn 32 oed yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20231117-436.