Newyddion S4C

Cymeradwyaeth amodol i gais £15 miliwn er mwyn adfywio canol tref Llanelli

21/11/2023
Llanelli

Mae cais am gyllid ar gyfer prosiect £15 miliwn i adfywio canol tref Llanelli wedi ei gymeradwyo.

Wedi eu cais aflwyddiannus am gyllideb yn ystod ail rownd o wobrwyo grantiau o’r Gronfa Ffyniant Bro yn gynharach eleni Llywodraeth y DU, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael cadarnhad bod eu cais am gyllid o’r drydedd rownd o wobrwyo grantiau wedi ei gymeradwyo yn amodol.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y cyngor yn atgyfodi’r hen siop Woolworths i fod yn gyfleuster newydd sy'n cynnig gofod cydweithio hyblyg a swyddfeydd, cymorth busnes a chanolfan i randdeiliaid.

Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud yn y Sgwâr Canolog, Gerddi'r Ffynnon a Stryd Cowell, gyda’r nod o “cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd i gefnogi economi canol y dref”, yn ôl y cyngor.

Mae cyllid o £15,547,105 wedi ei roi ar gyfer y prosiectau hyn, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2026.

Yn ymateb i lwyddiant y cais, dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans: “Rydym yn croesawu penderfyniad y Gronfa Ffyniant Bro i gymeradwyo ein cais am gyllid ar gyfer canol tref Llanelli ac edrychwn ymlaen at ystyried y cynnig unwaith eto gyda swyddogion a rhanddeiliaid Llywodraeth y DU ac archwilio'r cyfleoedd posibl i ddatblygu bywiogrwydd canol y dref a'i llesiant economaidd ymhellach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.