'Datrys y dirgelwch': Pam fod gwin coch yn achosi cur pen?
Mae’r “dirgelwch hynafol” ynglŷn â pham fod yfed gwin coch achosi cur pen wedi ei ddatrys, yn ôl gwyddonwyr.
Yn wahanol i gur pen all godi'r bore ar ôl yfed alcohol, fe all gwin coch achosi cur pen mewn cyn lleied â 30 munud a hynny ar ôl yfed gwydraid bychan yn unig.
Yn ôl gwyddonwyr yn nhalaith Califfornia, gwrthocsidydd naturiol sydd wrth wraidd y boen all arwain at gur pen.
Mae gwin o ardaloedd heulog iawn yn fwy tebygol o gynnwys y gwrthocsidydd quercetin medd y gwyddonwyr.
Dywedodd Morris Levin, un o awduron y gwaith ymchwil o Brifysgol Califfornia eu bod “gam yn agosach” at esbonio’r “dirgelwch.”
“Pan mae pobl yn yfed gwin sy’n cynnwys ychydig bach o quercetin yn unig, maen nhw’n datblygu pen tost, yn enwedig os ydynt yn debygol o ddioddef â phen tost neu meigryn yn barod,” meddai.
“Y cam nesaf yw profi pobl sy’n dioddef gyda’r math yma o ben tost.”
Y wyddoniaeth
Mae quercetin yn fath o bigment mewn planhigion, ac mae’n rhoi lliw i ffrwythau a llysiau.
Mae’r gwrthocsidydd hefyd yn bresennol mewn rhai mathau o de, cocoa a grawnwin.
Ond unwaith iddo gael ei gyfuno gyda gwin coch, mae’n gallu amharu ar allu unigolion i brosesu’r alcohol, meddai’r gwaith ymchwil newydd.
Dywedodd yr Athro Emeritws Andrew Waterhouse o adran dyfu gwin y brifysgol: “Pan mae’n mynd i mewn i’ch llif gwaed, mae eich corff yn ei drawsnewid i ffurf wahanol o’r enw quercetin glucuronide.
“Yn y ffurf honno, mae'n rhwystro metaboledd alcohol,” meddai.