Euro 2024: Gêm dyngedfennol i Gymru yn erbyn Twrci
Euro 2024: Gêm dyngedfennol i Gymru yn erbyn Twrci
Mae noson fawr arall yn wynebu tîm pêl-droed Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth wrth iddyn nhw wynebu Twrci yng ngêm olaf rowndiau rhagbrofol Euro 2024.
Gyda gobeithion Cymru o gyrraedd Yr Almaen yn y fantol, mae tîm Rob Page yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill yng ngrŵp D i fynd o'u plaid nhw.
Wedi gêm gyfartal yn erbyn Armenia ddydd Sadwrn, mae'n rhaid i Gymru nid yn unig guro Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, ond hefyd gobeithio y bydd Croatia naill ai'n cael gêm gyfartal neu'n colli yn erbyn Armenia.
Os nad yw hyn yn digwydd, mae gan Gymru'r posibilrwydd o hyd o gyrraedd Euro 2024 drwy'r gemau ail-gyfle fis Mawrth nesaf.
Mae Twrci eisoes wedi sicrhau eu lle yn Euro 2024 y flwyddyn nesaf.
Roedd Cymru wedi teithio i Armenia gan wybod y byddai dwy fuddugoliaeth yn nwy gêm olaf Grŵp D yn golygu y byddai tîm Rob Page yn cyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen y flwyddyn nesaf.
Ond ar ôl ildio gôl wedi pum munud o chwarae a pherfformiad oedd yn dra-gwahanol i'r un yn erbyn Croatia fis diwethaf, roedd gobeithion Cymru o gymhwyso yn awtomatig yn pylu.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Rob Page: "Ry'n ni'n teimlo'n isel ar y foment, oherwydd nid dyma'r canlyniad roedden ni eisiau nac ei angen.
"Ond mae 'na dal obaith i ni, a ry'n ni eisiau perfformiad da nos Fawrth. Y bwriad nawr yw i ni orffen ar nodyn uchel."
Yn ei golofn Malcs a'i Farn, ar gyfer Newyddion S4C, dywedodd cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen ei fod yn credu y bydd Cymru yn gorffen yr ymgyrch gyda buddugoliaeth.
"Ma’r sefyllfa ‘di newid rŵan dipyn bach ers y canlyniadau dros y penwythnos. Ond oedd hi’n gêm gyfartal felly mae dal gobaith.
"Ers 40 o flynyddoedd rŵan, dwi di bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r byd bêl-droed 'ma. Ac mae ‘na bethau annisgwyl. Ma ‘na droadau, ma ‘na gymaint o fyny a lawr.
"Ydyn ni mynd i neud hi yn erbyn Twrci? Ydan.
"Ond dwi’n edrych ar yr ymgyrch i gyd a chwaraewyr ifanc yn dod i mewn."
Sêr y dyfodol
"Neco Williams a Jordan James sy’ wedi bod yn ardderchog. Y ddau ohonyn nhw yna am byth trwy ei yrfa rŵan. Neco eisiau gwella tipyn bach - dal i fod yn chwaraewr sydd efo’i ben i lawr ond mi neith o ddatblygu.
"Mae gynno ni chwaraewyr fel Owen Beck tu ôl iddo fo. Dwi’n meddwl bydd o yn cymryd drosodd y safle ar y chwith na mewn blynyddoedd i ddod.
"Ma gynno ni chwaraewyr ifanc fel Charlie Savage, Luke Harris yn dod i mewn hefyd. Mae gynno ni garfan ddyfnach rŵan."
'Stwffio Twrci'
"Mae o mor, mor bwysig bod ni’n perfformio.
"Un neu ddau newid sydd angen i'r tîm yn fy marn i. Brennan Johnson i mewn am David Brooks, efo Tom Lockyer yn cymryd lle Chris Mepham, sydd wedi ei wahardd.
"Does dim byd i golli heno, ac mae'n rhaid mynd amdani.
"Oes mae gynno ni rhywbeth i ddisgyn yn ôl ar ond rhaid curo heno.
“Ma Nadolig ond mis i ffwrdd. Dy’ ni mynd i gal anrheg gynnar heno a stwffio Twrci.
"Felly dyma ni, dwi'n rhagweld - Cymru 2 Twrci 1."
Bydd y gêm rhwng Cymru a Thwrci yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C am 19.20 nos Fawrth.