Elfyn Evans yn aros gyda thîm rali gorau'r byd ar gyfer tymor 2024
Mae’r gyrrwr rali Elfyn Evans wedi cadarnhau y bydd yn aros gyda thîm Toyota Gazoo Racing ar gyfer tymor Pencampwriaeth Rali’r Byd yn 2024.
Wedi iddo orffen yn ail ym mhencampwriaeth eleni ar ôl ennill Rali Japan dros y Sul, cadarnhaodd y gyrrwr o Ddolgellau ddydd Llun y bydd yn aros gyda’r tîm am bumed tymor.
Dyma’r trydydd tro yn ei yrfa i Evans orffen yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y byd.
Mae Toyota Gazoo Racing wedi ennill pencampwriaeth y gwneuthurwyr dros y tair blynedd diwethaf, gyda chyd-yrrwr Elfyn Evans, Kalle Rovenpera, yn ennill pencampwriaeth y gyrwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dywedodd Elfyn Evans: “Dw i’n edrych ymlaen at fy mhumed flwyddyn yn olynol gyda’r tîm. Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol gyda’n gilydd dros y pedair blynedd ddiwethaf ac rydw i’n gyffrous iawn i barhau gyda’r stori honno gyda Toyota Gazoo Racing.
"Roeddwn i’n teimlo’n rhan o’r tîm yn syth ar ôl ymuno ac mae’n teimlo fel adref i mi rŵan.
“Mae’r gefnogaeth gan bawb i wneud i mi deimlo’n gyfforddus yn y car Yaris 1 Hybrid wedi bod yn wych, ac rydym wedi parhau i wneud cynnydd eleni.
“Rwy’n awyddus i adeiladu ar hynny a bod hyd yn oed yn well yn 2024. Mae gennym lawer mwy i’w gyflawni gyda’n gilydd ac rwy’n gyffrous am y dyfodol.
“Fel bob amser, y targed fydd ennill, boed hynny ym mhob rali neu yn y bencampwriaeth."