Cyfreithiau newydd i ddileu cyfyngiadau darlledu daearyddol S4C
Cyhoeddodd yr adran yn Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiwylliant a'r cyfryngau y bydd cyfreithiau newydd yn cael eu sefydlu i hyrwyddo rhaglenni teledu Cymraeg a Gaeleg
Yn ôl yr adran, bydd siaradwyr Cymraeg a Gaeleg ar draws y DU yn medru cael mynediad haws at eu hoff raglenni teledu o dan gyfreithiau wedi’u hailwampio sy’n cael eu trafod yn y Senedd yn San Steffan.
Mae'n golygu y bydd y cyfyngiadau daearyddol sydd gan S4C o ran darlledu hefyd yn cael eu dileu, a fydd yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu gwylio cynnwys Cymraeg ar lwyfannau newydd.
Yn ôl S4C, bydd hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu gwasanaethau ymhellach a gosod cynnwys Cymraeg ar y prif lwyfannau ledled y DU.
Cafodd y rheoliadau darlledu presennol eu llunio degawdau yn ôl, a byddan nhw yn cael eu diweddaru i roi cytundeb sy’n addas ar gyfer yr oes ffrydio i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSB) hanfodol y DU.
Bydd y rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r BBC ddarparu deg awr o ddarlledu’r wythnos i S4C hefyd yn cael eu hadolygu, gyda'r darlledwyr yn trafod er mwyn creu telerau newydd "o fudd masnachol i'r ddwy ochr."
Moderneiddio gwasanaethau digidol ac ar-lein
Bydd y Bil Cyfryngau, sy’n dechrau ei ail ddarlleniad heddiw, yn cyflwyno rheolau symlach a mwy hyblyg ar gyfer pa raglenni teledu y bydd yn ofynnol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu dangos - a hynny o fewn cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus newydd.
Mewn datganiad, dywedodd Adran Ddiwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan: "Am y tro cyntaf, bydd cynnwys sydd mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn rhan o’r ystod o raglenni y gall darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu cynnig i gyflawni eu rhwymedigaethau.
"Bydd cylch gwaith S4C, y darlledwr Cymraeg, yn cael ei foderneiddio i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein. Mae hyn yn golygu y bydd cynnwys Cymraeg sydd ar gael ar apiau ac sy’n cael ei ffrydio ar-lein bellach yn cyfrif tuag at fodloni ei ofynion o ran darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
"Bydd y cyfyngiadau daearyddol sydd ganddo o ran darlledu hefyd yn cael eu dileu, a fydd yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu mwynhau cynnwys Cymraeg ar lwyfannau newydd, waeth ble maent yn byw yn y DU neu ledled y byd.
"Apiau a rhaglenni poblogaidd ar gael yn hawdd"
"Bydd y mesurau hyn yn helpu S4C i ehangu ei orwelion ac addasu i newidiadau mewn arferion gwylio, gan gefnogi’r economi, diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru, a chyfrannu tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – ymgyrch y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w chefnogi.
"Bydd rhaglenni teledu Cymraeg a Gaeleg hefyd ymhlith y rhai sy’n cael eu hyrwyddo drwy reolau amlygrwydd newydd ar gyfer cynnwys ar-lein gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
"Felly, bydd hi’n ofynnol bod apiau a rhaglenni poblogaidd gan ddarlledwyr fel y BBC ac S4C ar gael yn hawdd i wylwyr ar setiau teledu clyfar, ffyn ffrydio a blychau pen set poblogaidd. "
Gosod cynnwys Cymraeg ar y prif lwyfannau
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu S4C, Elin Morris:"Bydd y Bil Cyfryngau yn cadarnhau safle S4C fel darparwr cynnwys Cymraeg aml-lwyfan ar draws y DU a thu hwnt.
"Fe fydd y fframwaith newydd yn sicrhau bod ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys y Gymraeg, yn rhan o'r cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus newydd ar gyfer teledu yn y DU.
"Bydd y Bil yn ymestyn deddfwriaeth ar gyfer gwylio teledu ar-lein ac yn sicrhau bod S4C Clic ar gael ar setiau teledu clyfar ac yn cael lle amlwg ar setiau teledu yng Nghymru.
"Fe fydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu ein gwasanaethau ymhellach a gosod cynnwys Cymraeg ar y prif lwyfannau ledled y DU."
Dywedodd Gweinidog y Cyfryngau, Sir John Whittingdale: “Mae darlledwyr fel y BBC ac S4C yn helpu i gadw ein hieithoedd brodorol gwerthfawr yn fyw, gan ddarparu rhaglenni gwych i siaradwyr mewn iaith sy’n gyfarwydd iddynt.
"Rydym am sicrhau bod y cynnwys hwn ar gael yn eang ac yn hawdd i’w ganfod, ni waeth ble fyddwch yn dewis gwylio.
“Bydd ein Bil Cyfryngau yn rhoi hwb i amddiffyniadau ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol y DU drwy gynnig mwy o ddewis i gynulleidfaoedd o ran sut y gallant wylio eu hoff sioeau Cymraeg a Gaeleg, ac yn ymgorffori pwysigrwydd yr ieithoedd hyn yn y gyfraith ddarlledu am y tro cyntaf.”
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies wedi croesawu'r datbylgiad: “Rwy’n falch iawn o weld darpariaethau ym Mesur Cyfryngau Llywodraeth y DU a fydd o fantais wrth gynhyrchu cynnwys Cymraeg ac yn helpu S4C i gaffael cynulleidfaoedd newydd ar gyfer y dyfodol.
“Ac mae’n wych bod cynulleidfaoedd yn gallu cyrchu cynnwys Cymraeg, ble bynnag maen nhw’n byw yn y byd.”
Yn ôl yr adran gyfryngau yn San Steffan, bydd y rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r BBC ddarparu deg awr o ddarlledu’r wythnos i S4C yn cael eu hadolygu i adlewyrchu’r newid yn y ffordd y mae pobl yn cyrchu cynnwys.
Bydd y BBC ac S4C yn cydweithio i gytuno ar delerau newydd sydd o fudd masnachol i’r ddwy ochr, gan sicrhau bod S4C yn parhau i wasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg.