Wrecsam: Anafiadau difrifol i feiciwr modur ar ôl gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd
Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd ger Wrecsam.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A495 ger Bronington tua 11:45 ddydd Sul 9 Mawrth.
Roedd pum cerbyd yn y gwrthdrawiad; beic modur Honda, BMW 120D M Sport, BMW 320i M Sport, Renault Clio, a Vauxhall Corsa.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i'r ysbyty yn Stoke mewn ambiwlans awyr.
Mae DC Donna Vernon o Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar yr A495 o gwmpas aded y gwrthdrawiad, ac sydd o bosib efo lluniau dashcam sydd yn gallu cynorthwyo ein hymchwiliad i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.
Fe allwch chi gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan neu ffonio 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 25000199323.