
'Uchelgeisiol': Cynlluniau newydd ar gyfer gorsaf drenau Caerdydd
Mae buddsoddiad gwerth £140 miliwn wedi ei gyhoeddi ar gyfer gwella gorsaf drenau Caerdydd Canolog.
Cafodd y cynllun busnes ei gyflwyno'r llynedd a bydd cyflawni’r cynlluniau’n amodol ar gymeradwyo’r cynlluniau a’r achos busnes llawn.
Bydd yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £140 miliwn ar gyfer y gwelliannau.
Bwriad y cynlluniau yw i foderneiddio’r orsaf gan gefnogi twf teithwyr hirdymor, tra’n dal i gadw hanes a threftadaeth yr adeilad.
Bydd pwyslais ar wella hygyrchedd yr orsaf a gwneud newidiadau er mwyn osgoi gorlenwi.



Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cyntedd mwy i gynyddu capasiti, gwella llif teithwyr a giatiau mynediad ychwanegol, a helpu cwsmeriaid i gysylltu â ffyrdd eraill o deithio, yn ogystal â chyfleusterau aros gwell, rhagor o siopau a storiau beiciau.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru fod y buddsoddiad yn eu galluogi i “wneud gwelliannau i orsaf Caerdydd Canolog i’w wneud yn addas i wasanaethu prif ddinas ag i ymdopi a thwf mewn nifer teithwyr yn y dyfodol.”
“Mae’r cynigion ar gyfer yr orsaf yn cyfrannu at fuddsoddiad sylweddol ehangach o drawsnewid trafnidiaeth yn ninas Caerdydd ac mae’n cynnwys cynlluniau adfywio uchelgeisiol.” meddai.
Prif lun: Cynllun o fynedfa gefn gorsaf drenau Caerdydd Canolog (Lluniau: Trafnidiaeth Cymru)