Newyddion S4C

Person wedi ei gludo i'r ysbyty wedi digwyddiad mewn gorsaf betrol yn Hen Golwyn

20/11/2023
Tan Hen Golwyn

Mae un person wedi’i gludo i’r ysbyty ar ôl adroddiadau o dân mewn gorsaf betrol yn Hen Golwyn fore Llun.

Mae’r heddlu wedi gofyn i yrwyr gadw draw o un rhan o'r dref yn dilyn y digwyddiad.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad toc wedi 08.30.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans anfon ambiwlans argyfwng, yn ogystal ag uned ymateb ddifrifol a rheolwr gweithredu.

Fe gafodd un person eu trin yn y fan a’r lle, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Whiston, yng Nglannau Mersi.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae swyddogion yn bresennol yn yr orsaf betrol yn Hen Golwyn, ynghyd â chydweithwyr o’r gwasanaethau ambiwlans a thân.

“Bydd yr orsaf ar gau am beth amser a’r cyngor i fodurwyr ydy cadwch draw hyd nes y cewch chi wybod yn wahanol.

“Mae hwn yn ddigwyddiad ynysig a dydy o ddim yn gysylltiedig hefo gweithgarwch arall yr heddlu yn ardal Bae Colwyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.