Newyddion S4C

Apêl yr Urdd i gynnig gwyliau haf i 250 o blant difreintiedig

20/11/2023
s4c

Mae’r Urdd wedi ail-lansio apêl er mwyn sicrhau bod rhai o blant a phobl ifanc fwyaf difreintiedig Cymru yn cael gwyliau yn 2024.

Daw'r apel wedi ystadegau yn dangos fod 30% o blant Cymru bellach yn byw mewn tlodi.

Mae dydd Llun yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Plant ac mae’r Urdd yn galw ar unigolion, cwmnïau a chymdeithasau i gyfrannu at gynllun ‘Cyfle i Bawb – Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’. 

Bwriad y gronfa yw cynnig gwyliau i 250 o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol.

“Mae’r argyfwng costau byw nid yn unig yn rhoi straen ariannol ar deuluoedd, ond yn effeithio iechyd emosiynol a gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc, hefyd,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Eleni, derbyniodd yr Urdd y nifer fwyaf erioed o geisiadau gan rieni ac ysgolion ers sefydlu ein Cronfa Cyfle iBawb, ac rydym mor ddiolchgar i bawb a wnaeth hi’n bosibl i ni gynnig gwyliau i dros 100 o blant yn ein gwersylloedd haf.

“Rydym wedi mwy na dyblu ein targed ar gyfer 2024 er mwyn cynnig gwyliau i 250 o blant a phobl ifanc na fyddai’n cael cyfle i fwynhau gwyliau haf fel arall. Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol rydym yn gyson chwilio am ffyrdd i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle.”

'Cyfle'

Bob haf ers 2019 mae’r Gronfa wedi galluogi i gannoedd o blant a phobl ifanc difreintiedig i fwynhau gwyliauyng ngwersylloedd yr Urdd, meddai'r mudiad. 

Maen nhw wedi cynyddu’r darged ar gyfer 2024 ar ôl derbyn y fwyaf erioed o geisiadau am wyliau haf drwy nawdd y Gronfa yn 2023.

Byddai nawdd o £180 yn cyfrannu at gost gwyliau i un plentyn neu berson ifanc ar Wersyll Haf yng Nglan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Gaerdydd. Mae’r apêl wedi’i groesawu gan rieni’r rheiny fynychodd Wersyll Hafeleni drwy nawdd Cronfa Cyfle i Bawb.

Dywedodd un rhiant, Cerian Rolls o Aberdâr: “Dim ond drwy’r Gronfa oedd hi’n bosib i fy mab fynychu ei gwrs preswyl gyntaf erioed. Cafodd yr amser gorau, gwnaeth llawer o ffrindiau newydd, ac mae eisoes wedi gofyn am gael mynd yn ôl y flwyddyn nesaf. 

"Diolch am roi’r cyfleoedd anhygoel yma iddo.”

Bydd modd i rieni neu ysgolion wneud cais am wyliau ar ran plentyn yn fuan yn 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.