Newyddion S4C

Gaza: Gobaith newydd am gytundeb i ryddhau gwystlon

20/11/2023
s4c

Fe allai cytundeb i ryddhau gwystlon o Israel a gafodd eu cipio gan Hamas i Gaza fod yn agosach nag erioed, meddai’r Tŷ Gwyn.

Dywedodd dirprwy gynghorydd diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Jon Finer, y gallai cytundeb rhwng Israel a Hamas olygu bod “cryn dipyn yn fwy na 12” o wystlon yn cael eu rhyddhau. 

Ychwanegodd y byddai’r cytundeb hefyd yn debygol o gynnwys saib estynedig yn yr ymladd, er mwyn dosbarthu cymorth dyngarol.

“Yr hyn y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd yw bod llai o anghytuno bellach ar rai trafodaethau cymhleth iawn a sensitif iawn,” meddai Mr Finer wrth Meet the Press NBC.

“Rwy’n credu ein bod yn agosach nag yr ydym wedi bod ers cryn amser, efallai yn agosach nag yr ydym wedi bod ers dechrau’r broses hon, at ddod i gytundeb.”

Ond rhybuddiodd Mr Finer: "Does dim byd wedi ei gytuno nes bod popeth wedi ei gytuno. Gall trafodaethau sensitif fel hyn syrthio’n ddarnau ar y funud olaf."

Mae Michael Herzog, llysgennad Israel i’r Unol Daleithiau, wedi dweud ei fod yn obeithiol y gallai “nifer sylweddol” o wystlon gael eu rhyddhau “yn y dyddiau nesaf”.

Mae Prif Weinidog Qatar hefyd wedi dweud ei fod yn gynyddol hyderus fod cytundeb ar y gweill.

'Twnnel terfysgol'

Yn y cyfamser, mae byddin Israel wedi rhyddhau ffilm sydd medden nhw yn dangos "twnnel terfysgol 55m o hyd, 10m o ddyfnder” o dan ysbyty al-Shifa.

Dywedodd y fyddin bod y ffilm yn "profi bod Hamas yn defnyddio nifer o adeiladau yn ardal yr ysbyty ar gyfer gweithgareddau terfysgol".

Mae Hamas wedi gwadu’r honiadau hyn dro ar ôl tro, ac mae rhai o’r staff meddygol sy’n gweithio yn ysbyty mwyaf Dinas Gaza hefyd wedi gwadu. 

Dywed y weinidogaeth iechyd sydd dan reolaeth Hamas fod 13,000 o bobl wedi’u lladd yn Gaza ers i Israel ddechrau ei hymgyrch yn erbyn Hamas.

Dechreuodd Israel yr ymosodiad ar Gaza ar ôl i Hamas groesi'r ffin ar 7 Hydref, gan ladd 1,200 o Israeliaid a chymryd mwy na 200 yn wystlon. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.