Newyddion S4C

Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025: Llinos Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith

s4c

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Llinos Roberts fydd cadeirydd pwyllgor gwaith y brifwyl yn Wrecsam yn 2025. 

Mae Ms Roberts wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. 

Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â'r ddinas yn 2011 ei diweddar wr, cyn-Gomisiynydd y Gymraeg Aled Roberts, oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Dywedodd yr Eisteddfod fod ganddi ddealltwriaeth gref o’r ardal a’i phobl a'i bod yn awyddus i’r Eisteddfod adlewyrchu’r brwdfrydedd a’r frwydr barhaus i gadw’r Gymraeg yn fyw mor agos at y ffin. 

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses ei bod yn “edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Llinos a’r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2025."  

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal Wrecsam," meddai. "Er i ni ymweld â’r ardal yn lled-ddiweddar yn 2011, mae’r Eisteddfod wedi datblygu ac esblygu llawer yn ystod y cyfnod, yn union fel Wrecsam.  

"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn cynnal yr ŵyl yn yr ardal, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r gymuned ar bob lefel dros y flwyddyn a hanner nesaf."

Swyddogion eraill

Chris Evans yw Cadeirydd y Gronfa Leol.  Fel Llinos, mae Chris yn dod o Wrecsam, ac yn dysgu yn Ysgol Morgan Llwyd ers blynyddoedd.  Mae’n Gadeirydd Saith Seren, a bu ynghlwm â phapur bro Y Clawdd am flynyddoedd lawer.

Wyneb arall lleol sydd wedi’i hethol yn Is-gadeirydd Strategol Eisteddfod 2025.  Mae Jane Angharad Edwards yn swyddog gyda Chomisiynydd y Gymraeg wrth ei gwaith, ac fe fydd hi’n arwain ar yr elfen gymunedol, codi ymwybyddiaeth a sicrhau gwaddol yn yr ardal ar ddiwedd y prosiect.

Mae Elen Mai Nefydd yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam ers blynyddoedd, ac yn Bennaeth Datblygiad Academaidd y Gymraeg y Brifysgol ar hyn o bryd.  Gyda chefndir ym maes theatr a chelfyddydau perfformio, Elen Mai yw Is-gadeirydd Diwylliannol Eisteddfod 2025, a hi fydd yn arwain ar elfennau artistig y prosiect.

Yn Wrecsam mae gwreiddiau Shoned Mererid Davies, sydd wedi’i hethol yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith hefyd. Yn gyn-reolwr Siop y Siswrn yn Wrecsam a’r Wyddgrug, mae Shoned yn gweithio fel Swyddog Addysg yng Nghyngor Llyfrau Cymru ers dros ugain mlynedd.  

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal o 2-9 Awst 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.