Newyddion S4C

Russell Brand yn cael ei holi ‘dan rybudd’ gan Heddlu’r Met

19/11/2023
Russell Brand

Mae Russell Brand wedi cael ei holi “dan rybudd” gan heddlu’r Met yn Llundain ynglŷn â chyhuddiadau o droseddau rhywiol.

Cafodd dyn, a ddeallir i fod yn Brand, ei holi gan swyddogion mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain ar 16 Tachwedd, yn ôl y Times ddydd Sul.

Dywedodd yr heddlu: “Fe wnaeth dyn yn ei 40au ymweld â gorsaf heddlu yn ne Llundain ddydd Iau 16 Tachwedd. Fe gafodd ei holi dan rybudd mewn cyswllt â thri achos o droseddau rhywiol oedd ddim yn ddiweddar. Mae ein hymholiadau yn parhau.”

Mae adroddiadau diweddar gan y wasg a'r cyfryngau ym Mhrydain wedi cynnwys honiadau o dreisio, ymosodiadau rhywiol a chamdriniaeth emosiynol yn erbyn Russell Brand.

Mae'n gwadu'r honiadau ac yn dweud bod pob un perthynas "bob amser yn gydsyniol".

Fe gafodd y cyhuddiadau gyntaf yn erbyn Mr Brand eu gwneud ar raglen Disptaches ar Channel 4, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gyda The Sunday Times a The Times.

Fe wnaeth pedair dynes honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhywiol rhwng 2006 a 2013, pan oedd gyrfa Brand yn ei anterth ac yntau'n gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.