Newyddion S4C

Dyn o Abertawe wedi ei gyhuddo o ddosbarthu cyhoeddiad terfysgol

19/11/2023
S4C

Mae dyn 18 oed o Abertawe wedi ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo o ddosbarthu  cyhoeddiad terfysgol.

Daeth Alex Hutton (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel  Alex Edwards),  o Dreforys gerbron Llys Ynadon Westminster yn Llundain dros y penwythnos.

Mae wedi ei gyhuddo o ddosbarthu cyhoeddiad terfysgol rhwng Medi 24 2023 a Tachwedd 16 2023, yn groes i'r Ddeddf Derfysgaeth 2006.

Mae hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad arall, sef ceisio achosi niwed corfforol difrifol; ymosod gan achosi niwed corfforol; mynd yn groes i Orchymyn Ymddygiad Troseddol, a bod ag arf miniog yn ei feddiant,

Cafodd Hutton ei gadw yn y ddalfa hyd nes bydd yn ymddangos gerbron llys yr Old Bailey ddydd Gwener (Tachwedd 24).

Mae Heddlu'r De'n dweud bod yr ymchwiliad yn parhau, ond nad ydyn nhw wedi adnabod unrhyw berygl i'r cyhoedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.