Protestiadau Israel-Gaza yn erbyn Aelodau Seneddol 'yn croesi llinell' meddai Rachel Reeves
Mae rhai protestiadau yn erbyn gwleidyddion ynglŷn â 'r rhyfel yn Gaza wedi "croesi llinell" yn ol y Canghellor Cysgodol Rachel Reeves.
Ddydd Sadwrn cafodd swyddfa Arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer ei thargedu gan brotestwyr, a'r wythnos diwethaf cafodd paent ei daflu dros adeilad swyddfa'r Aelod Seneddol Jo Stevens yng Nghaerdydd, wedi iddi hi ymatal mewn pleidlais yn galw am gadoediad yn Gaza.
Yn y bleidlais, aeth 56 o Aelodau Seneddol Llafur yn groes i bolisi'r blaid, sy'n galw am "saib ddyngarol" yn hytrach na chadoediad yn Gaza. tra'n cefnogi hawl Israel i "amddiffyn ei hun".
Dywedodd Rachel Reeves ei bod hi'n cefnogi hawl unrhyw un i brotestio, ond mai bwriad rhai protestwyr oedd "i fygwth a chodi ofn" ar Aelodau Seneddol.
"Yr hyn sy'n bryder i mi ydi'r pwysau enfawr sydd yn cael ei roi ar Aelodau Seneddol," meddai.
"Dydw i ddim cefnogi Aelodau Seneddol yn cael eu brawychu."