Dau berson wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
Mae dau berson wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â thri cherbyd ar Ffordd Ddeheuol y brifddinas am tua 21:45 nos Sadwrn.
Dywedodd Heddlu de Cymru fod menyw 73 oed a dyn 76 oed wedi dioddef anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad. Cafodd merch wyth oed oedd yn y car fân anafiadau.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 44 oed o ardal Tottenham yn Llundain ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus
Cafodd y tri oedd wedi eu hanafu eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ynghyd â dyn 33 oed oedd yn gyrru’r trydydd car.
Roedd y ffordd ar gau am rai oriau er mwyn i'r heddlu gynnal ymchwiliadau.
Llun: Google Maps