A470 yn y Canolbarth bellach wedi ail-agor ar ôl naw diwrnod
19/11/2023
Mae rhan o'r A470 ym Mhowys bellach wedi ail-agor ar ôl bod ynghau am naw diwrnod.
Roedd rhan o wal ger y ffordd yn Nhalerddig wedi disgyn mewn glaw trwm, gyda rhai gyrrwyr ar y brif ffordd rhwng y gogledd a'r de yn wynebu dargyfeiriad o bron i 70 milltir.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i ganiatau mwy o amser ar gyfer eu taith.
Mae disgwyl i oleuadau traffig fod ar y ffordd am beth amser, hyd nes bydd gwaith atgyweirio llawn wedi ei wneud.
Mae gwaith dros dro wedi ei gwblhau, gyda bariau diogelwch wedi eu gosod.