Elfyn Evans wedi ennill Rali Japan
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi ennill Rali Japan ar ôl y trydydd diwrnod cyflawn o gystadlu ddydd Sul.
Roedd Evans funud ac 17 eiliad o flaen Sébastien Ogier o Ffrainc yn yr ail safle ar ddiwedd chwe chymal dydd Sul i gwblhau’r rali.
Dyma rali olaf y flwyddyn ac mae ennill y rali hon wedi sicrhau safle Evans yn ail ym mhencampwriaeth y byd tu ôl i Kalle Rovanperä o’r Ffindir sydd eisoes wedi ei goroni’n bencampwr.
Roedd Evans wedi serennu er gwaethaf yr amodau gwlyb trwy’r coed.
Dywedodd Evans ar ôl ennill y rali: “Mae’n wych i ennill yn dilyn penwythnos mor hir. Mae wedi bod yn anodd i gynnal cyflymdra da i gadw’r flaenoriaeth amser.”
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1726121057265066459
Llun: X/Elfyn Evans