Newyddion S4C

Alun Wyn Jones yn dod â’i yrfa i ben yn Toulon

18/11/2023
Alun Wyn Jones

Mae cyn-gapten Cymru Alun Wyn Jones wedi dod â’i yrfa 19 mlynedd i ben drwy arwain Toulon i fuddugoliaeth ddydd Sadwrn.

Cafodd Alun Wyn ei gyhoeddi'n gapten gan Toulon ar gyfer eu buddugoliaeth o 30-27 yn erbyn Clermont Auvergne.

Fe dderbyniodd gymeradwyaeth y dorf a’r ddau dîm wrth iddo adael y cae ar ôl 66 munud cyn ail ymuno â’r chwarae fel eilydd ar gyfer y ddwy funud olaf a helpu i greu’r cais wnaeth ennill y gêm.

Enillodd Alun Wyn 158 o gapiau dros Gymru, chwaraeodd mewn 12 gêm brawf dros y llewod a phedair cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Fe wnaeth adael y Gweilch ym mis Mai eleni, ac ar ôl ymddeol o rygbi rhyngwladol fe ymunodd â Toulon.

Llun: X/RCT-RC Toulon

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.