
Mared ac Alaw yn cipio Cadair a Choron Eisteddfod Y Ffermwyr Ifanc 2023
Fe aeth prif wobrau llenyddol Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifainc Cymru i Eryri a Cheredigion.
Ym Mhafiliwn Mona ar Faes Sioe Môn, Mared Fflur Roberts, o glwb Dyffryn Madog, Eryri gipiodd y gadair, gydag Alaw Fflur Jones o glwb Felinfach, Ceredigion yn fuddugol yng nghystadleuaeth y goron.
Mae Mared yn ddisgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Dyffryn Conwy ac yn gobeithio mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg. Roedd hi'n ail am y goron yn Eisteddfod CFfI Cymru y llynedd.
Enillodd gyda cherdd yn ymdrin â dementia. Dywedodd y beirniad Arwel 'Rocet' Jones ei bod yn gwbwl deilwng o'r Gadair.
“Mae "Moi" yn fardd cynnil sy'n gwneud y profiad o fyw gyda dementia yn beth real iawn yn y berthynas rhwng dwy genhedlaeth," meddai. "Testun cyfarwydd sy'n cael ei drin yn senesitif mewn cyd-destun amaethyddol."
Mae enillydd y goron, Alaw Fflur Jones wedi bod yn aelod o'r mudiad ers 12 mlynedd. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, mae hi bellach ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth.
Enillodd am ddarn o ryddiaith ar y thema ‘Adenydd.'
Dywedodd y beirniad Llŷr Titus bod y "ddeialog yn naturiol, yr ymdriniaeth o’r pwnc o dan sylw yn sensitif ac o’r darlleniad cyntaf mi oedd gwaith Ann wedi fy nhynnu fi ato fo”
Cafodd y gadair ei chreu gan Tomos Jones a'r goron gan Helen Evans.
Cafodd gwobr newydd Dysgwr y Flwyddyn ei chynnig eleni am y tro cyntaf yn yr eisteddfod, gyda Daisy Plews o glwb Bodedern, Ynys Môn yn fuddugol.
Sir Gâr a Cheredigion enillodd y steddfod ar y cyd.
