Cau drysau ym mynedfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oherwydd protest
18/11/2023
Cafodd y drysau ym mynedfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd eu cau brynhawn Sadwrn wedi i brotestwyr fynd i mewn i'r adeilad yn galw am "ryddid i Balesteina"
Roedd nifer yn chwifo baneri Palesteinaidd yn ystod y brotest.
Am y pumed penwythnos yn olynol, cafodd gorymdaith dros Balesteina ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn wrth i'r ymosodiadau ar Gaza barhau.
Mewn neges, fe ymddiheurodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am unrhyw anghyfleustra wedi iddyn nhw gau'r drysau ym mlaen yr adeilad.
"Oherwydd protestiadau annisgwyl, rydym wedi gorfod cau drysau blaen yr Amgueddfa er mwyn gwarchod diogelwch ein hymwelwyr a’n staff. Mae drysau'r Reardon Smith ar agor ar ochr yr adeilad.
"Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir ac rydym yn bwriadu agor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel."
Ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd cyfrif Black Lives Matter Cardiff and Vale eu bod wedi "meddiannu Amgueddfa Caerdydd"
"Mae'r bobl wedi cael digon," meddai'r neges.
Inline Tweet: https://twitter.com/BLMCardiff/status/1725895259421380695
Llun: BLM Cardiff &Vale