Ymchwiliad yn parhau i ymosodiad gan gi ym Mhen Llŷn
Ymchwiliad yn parhau i ymosodiad gan gi ym Mhen Llŷn
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio wedi i bedwar o bobl gael eu hanafu mewn ymosodiad gan gi ym Mhen Llŷn.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Rhoshirwaun ger Aberdaron fore Gwener, wedi adroddiadau am ddigwyddiad yn ymwneud â chi peryglus.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, cafodd dau berson eu cludo i ysbyty gydag anafiadau difrifol. Cafodd dau berson arall fân anafiadau.
Dywedodd yr heddlu: "Wedi'r digwyddiad, cafodd cyfanswm o 37 o gŵn a nifer o gathod eu cludo o'r cyfeiriad. Mae'r ci sydd wedi achosi'r anafiadau wedi ei ddifa a dyw e ddim wedi ei archwilio gan filfeddyg eto er mwyn darganfod ei frîd."
Mae'r heddlu dal yn amlwg iawn yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Sian Beck: “Rydym yn deall bod hwn yn ddigwyddiad sy'n peri pryder yn yr ardal leol, ond rydym yn pwysleisio nad oes risg pellach i'r cyhoedd yn ehangach."
“Rydym wedi dechrau ymchwiliad ar y cyd â'r RSPCA ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cŵn oedd yn y lleoliad i gysylltu â ni."