Gêm gyfartal i Gymru 1-1 yn Armenia
Fe gafodd Cymru gêm gyfartal o 1-1 yn erbyn Armenia yn Yerevan ddydd Sadwrn mewn gêm dyngedfennol i gyrraedd cystadleuaeth Euro 2024 yn yr Almaen.
Fe benderfynodd Rob Page gadw at yr un tîm a gurodd Croatia yng Nghaerdydd fis diwethaf gyda'r ymosodwr Brennan Johnson ar y fainc.
Fe gafodd Cymru'r dechrau gwaethaf posib pan sgoriodd Armenia ar ôl pum munud gyda Lucas Zelarayán yn rhwydo gydag ergyd ar ôl i Gymru fethu â chlirio o gic gornel. Armenia 1-0 Cymru.
Daeth cyfle i David Brooks yn fuan wedyn ond fe aeth ei ergyd dros y trawst.
Gyda Chymru, yn eu crysau gwyn, yn cael mwy o feddiant, ar ôl 15 munud fe wyrodd ergyd Neco Williams am gic gornel ond fe rwystrodd amddiffynwyr Armenia ymgais Brooks yn dilyn hynny.
Fe ddaeth cyfle i Kieffer Moore ar ôl 20 munud ond fe aeth ei beniad heibio'r postyn.
Fe dderbyniodd amddiffynnwr Cymru Chris Mepham gerdyn melyn ar ôl 31 munud sy'n golygu ei fod yn colli'r gêm yn erbyn Twrci.
Daeth symudiad gorau'r gêm i Gymru ar ôl 37 munud pan wnaeth gwaith da gan Brooks a Williams arwain at ergyd gan Harry Wilson gyda golwr Armenia Ognjen Chancharevich yn gorfod gwyrio'r bêl am gic gornel.
Gyda'r hanner yn dirwyn i ben daeth cyfle hwyr i Gymru pan rwydodd amddiffynnwr Armenia Nair Tiknizyan i rwyd ei hun o dafliad hir Connor Roberts ar ôl 47 munud. Armenia 1-1 Cymru ar yr egwyl.
Fe ddaeth Johnson ymlaen fel eilydd yn lle Brooks ar ôl 49 munud.
Cafodd nerfau cefnogwyr Cymru eu profi ar ôl 60 munud pan darodd Vahan Bichakchyan trawst gôl Danny Ward.
Fe eilyddiodd Rob Page eto gyda Daniel James yn cymryd lle Harry Wilson ar ôl 65 munud.
Bu'n rhaid i golwr Armenia Chancharevich wneud arbediad eto o ergyd gan Jordan James ar ôl 68 munud ac fe aeth ymgais Williams ychydig yn hwyrach dros y trawst.
Fe wnaeth Nathan Broadhead i'r cae fel eilydd yn lle Connor Roberts.
Fe gynyddodd ymosodiadau Armenia yn y deng munud olaf gyda sawl cic gornel yn gosod Cymru dan bwysau.
Gyda'r ddau dîm yn ymosod fe arbediodd Chancharevich unwaith eto o beniad Moore ac un gan Ampadu.
Bu'n rhai i Ward achub Cymru eto ar ôl 90 munud i ildio cic gornel arall i Armenia.
Y sgôr terfynol; Armenia 1-1 Cymru.
Nid yw gobeithion Cymru ar ben ond gyda buddugoliaeth Croatia yn erbyn Latfia nos Sadwrn bydd yn rhaid curo Twrci nos Fawrth a gobeithio bydd na fydd Croatia yn curo Armenia os am fynd trwyddo o'r grŵp ac osgoi'r gemau ail gyfle.
Llun: Instagram/CBD Cymru