Israel yn dweud wrth Balesteiniaid i adael rhan o dde Gaza
Mae ymgynghorydd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi dweud y dylai Palesteiniaid adael dinas ddeheuol Khan Younis ar Lain Gaza.
Khan Younis yw'r ddinas fwyaf yn ne Gaza, ac mae cannoedd ar filoedd o bobl sydd wedi ffoi o'r gogledd eisoes yno.
"Ry'n ni'n gofyn i bobol adleoli. 'Dw i'n gwybod nad yw'n hawdd iddyn nhw", meddai Mark Regev wrth sianel MSNBC.
Mae'r Tŷ Gwyn wedi croesawu penderfyniad Israel i ganiatáu i ddwy lori gludo tanwydd i Gaza bob dydd, ond dywedodd bod angen mwy na hynny.
Yn ôl Hamas, mae mwy na 12,000 o bobl wedi eu lladd yn y diriogaeth ers i Israel ddechrau eu hymosodiadau. Dechreuodd cyrch Israel mewn ymateb i ymosodiad Hamas a laddodd dros 1,200 o Israeliaid ar 7 Hydref.
Dridiau ers i Israel ollwng pamffledi yn rhybuddio Palesteiniaid i adael Khan Younis, mae rhybudd arall wedi ei gyhoeddi.
Wrth i'r argyfwng dyngarol ddwysáu yn y ddinas sydd yn llawn i'r ymylon, mae rhybudd diweddaraf Israel yn awgrym y bydd yna ymosodiad milwrol yn fuan.