Newyddion S4C

Rhybuddion am lifogydd ar draws de Cymru ddydd Sadwrn

18/11/2023
Rhybudd llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer ardaloedd yn ne a de orllewin Cymru.

Mae rhybudd llifogydd coch, 'angen gweithredu ar frys' mewn grym ar gyfer afon Ewenni ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae rhybudd llifogydd melyn 'byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer dalgylchoedd afonydd yn yr ardaloedd canlynol:

  • Gorllewin Bro Morgannwg
  • Nan-y-fendrod a Nant Brân yn Abertawe
  • Llynfi ac Ogwr
  • Elái yng Nghaerdydd
  • Gogledd a gorllewin Sir Benfro

 

Wedi tywydd garw nos Wener , mae adroddiadau fod dŵr ar y ffordd yn ardal Dinbych-y-pysgod.

Mae’r A4063 Ffordd Maesteg ar gau i'r ddau gyfeiriad  rhwng Tondu a Ffordd Cildaudy am fod coeden wedi disgyn ar y ffordd. Mae rhybudd y bydd ar gau am gryn amser.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws rhannau o dde a de orllewin Cymru. 

Roedd y rhybudd mewn grym ers 0:00 ddydd Sadwrn tan 10:00 ddydd Sadwrn. 

Roedd y rhybudd wedi effeithio ar yr ardaloedd canlynol yn benodol:

  • Caerdydd

  • Abertawe

  • Caerfyrddin

  • Gogledd Sir Benfro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.