I'm a Celebrity… Get Me Out Of Here i ddychwelyd i'r sgrîn fach
Bydd y gyfres realiti poblogaidd I’m a Celebrity… Get Me Out Of Here yn dychwelyd i’r sgrîn fach unwaith eto nos Sul.
Bydd y ddeuawd adnabyddus Ant a Dec, neu Anthony McPartlin a Declan Donnelly, yn dychwelyd i’r jyngl yn Awstralia er mwyn cyflwyno’r gyfres newydd, bydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar sianel ITV1 am 21.00.
Mae’r rhestr o enwogion fydd yn cymryd rhan yn y gyfres eleni eisoes wedi cael ei chyhoeddi, ac mae rhai enwau wedi codi gwrychyn nifer o bobl.
Inline Tweet: https://twitter.com/imacelebrity/status/1724140138005926246
Bydd cyn-arweinydd y blaid UKIP a’r blaid Brexit, Nigel Farage, yn teithio i’r jyngl eleni wedi iddo gael ei dalu oddeutu £1.5 miliwn i gymryd rhan, yn ôl adroddiadau.
Bydd disgwyl i’r gwleidydd wynebu ei her gyntaf nos Sul, wrth iddo gael ei adael yng nghanol yr anialwch yn Awstralia gyda dwy o’i ‘gyd-gwersyllwyr’ sef cyflwynydd This Morning, Josie Gibson, a’r seren Youtube, Nella Rose.
Fe fydd y triawd yn cael gwybod bod gweddill y cast yn 2,000 o filltir i ffwrdd a bydd rhaid iddyn nhw gyflawni sawl un her cyn ymuno â gweddill y selebs.
Ymhlith yr enwogion eraill fydd yn cymryd rhan eleni bydd chwaer Britney Spears, Jamie Lynn Spears, y maître d o’r gyfres First Dates, Fred Sirieix, a’r canwr Marvin Humes o’r band JLS.
Bydd yr actor Nick Pickard, sy’n serennu yng nghyfres sebon Hollyoaks, yn ogystal â’r actores Danielle Harold o Eastenders hefyd yn cymryd rhan.
Bydd Sam Thomson sy’n wyneb boblogaidd o gyfres Made In Chelsea hefyd yn ymddangos yn y jyngl eleni, yn ogystal â’r arolygydd bwyd Grace Dent.
Llun: ITV