Newyddion S4C

Cyhoeddi enillydd prif wobr Cwis Bob Dydd

17/11/2023
Cwis Bob Dydd

Mae prif enillydd Cwis Bob Dydd wedi cael ei gyhoeddi nos Wener. 

Fe gafodd Michaela Carrington wybod ei bod wedi ennill prif wobr Cwis Bob Dydd ar raglen Heno nos Wener. 

Fe enillodd Ms Carrington ddefnydd o gar melyn Cwis Bob Dydd am flwyddyn. 

Dywedodd ei bod yn “anghredadwy” wrth ateb ei drws i un o gyflwynwyr Cwis Bob Dydd, Ameer Davies-Rana, ar raglen Heno. 

“Fi methu credu fe.

“Dwi ‘di chwarae bron pob dydd ers i fi cael 20 week sgan fi,” meddai wrth ddal ei mab newydd-anedig, Idris. 

“‘Nes i ffeindio mas amdano fe yn y gwaith a dwi jyst ‘di bod yn chwarae e pob dydd,” ychwanegodd. 

Dyma'r ail dymor i Cwis Bob Dydd cael ei gynnal. Y nôd yw ateb deg cwestiwn y dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.

Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuwr wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.

Bob tro yr oedd rhywun yn cystadlu ar y cwis yr oeddwn nhw'n derbyn tocyn am gyfle i ennill prif wobr y tymor. 

Wrth sôn am ddyfodol y cwis, dywedodd y cyflwynydd Ameer Davies-Rana: “’Dyn ni ddim mynd i stopio fan ‘na. 

“Mae rhaid i pawb cadw llygad allan am y tymor nesa – falle cyn Nadolig falle ar ôl ond yn sicr byddwn ni’n nôl, a gyda bang,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.