Pwllheli: Menter gymunedol yn cyrraedd y targed i brynu a datblygu hen westy
Mae menter gymunedol i brynu a datblygu hen westy ym Mhwllheli wedi cyrraedd ei tharged ariannol.
Fe wnaeth Gwesty'r Tŵr gau ar ddechrau’r pandemig ac ers hynny mae’r gymuned leol wedi dod at ei gilydd er mwyn ei brynu.
Fis Awst y llynedd fe wnaeth y gymuned godi £60,000 mewn 12 awr er mwyn talu blaendal am yr adeilad, ond roedd angen codi £400,000 ymhellach o fewn blwyddyn i gwblhau'r pryniant.
Mewn neges ar X ddydd Gwener, fe wnaeth y fenter ddatgelu eu bod nhw “wedi llwyddo.”
Inline Tweet: https://twitter.com/TwrPwllheli/status/1725432571142492587
Bwriad y gymuned yw troi'r adeilad yn dafarn, gofod cymunedol, bwyty a gwesty. Roedd pris cyfranddaliad yn dechrau o £100.