Elfyn Evans yn arwain Rali Japan
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn arwain Rali Japan ar ôl y diwrnod cyflawn cyntaf ddydd Gwener.
Fe ddechreuodd y rali gydag un cymal ddydd Iau ac yna wyth cymal ddydd Gwener.
Mae Evans ar y blaen o 1’49.9 yn erbyn Sébastien Ogier o Ffrainc yn yr ail safle.
Mae wyth cymal i’w gyrru ddydd Sadwrn gyda’r rali yn dod i ben yn dilyn chwe chymal ddydd Sul.
Dyma rali olaf y flwyddyn ac fe fydd ennill y rali yma yn cryfhau safle Evans yn ail ym mhencampwriaeth y byd tu ôl i Kalle Rovanperä o’r Ffindir sydd eisoes wedi ei goroni’n bencampwr.
Mae Evans wedi serennu er gwethaf yr amodau gwlyb trwy’r coed.
Dywedodd Evans: “Cawsom amodau eithafol y bore ‘ma wnaeth pethau’n eithaf heriol yn enwedig y dŵr ar y ffordd. Roedd llai o law yn y prynhawn ond roedd dal yn heriol i addasu i’r amodau oedd yn sychu ar ôl y bore eithafol.”
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1725482297862820106?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet
Llun: X/Elfyn Evans