Newyddion S4C

Rhybudd i gefnogwyr Cymru wedi 'digwyddiad difrifol' mewn tacsi yn Armenia

17/11/2023
s4c

Mae cefnogwyr Cymru sydd wedi teithio i Armenia wedi eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwriaeth yn dilyn "digwyddiad difrifol" yn y brifddinas, Yerevan, nos Iau.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Llysgenhadaeth Cefnogwyr Cymru fod y digwyddiad wedi bod mewn tacsi wedi i gefnogwraig ei ddal o far poblogaidd yng nghanol y brifddinas.

Dywedodd y Llysgenhadaeth fod y gyrrwr wedi tynnu i mewn i le tawel ac ymuno gyda'r gefnogwraig yn y cefn, gan ofyn am gymwynasau rhywiol fel taliad. 

Llwyddodd y gefnogwraig i ddod allan o'r tacsi yn ddianaf ond yn ofnus iawn.

Dywedodd llefarydd o Llysgenhadaeth Cefnogwyr Cymru: "Byddaf yn adrodd hyn i'r heddlu nawr ac i Lysgenhadaeth Prydain ond byddwch yn ymwybodol ac os ydych yn berson sengl yn hwyr yn y nos byddwch yn ofalus iawn..

"Y cyngor gorau yw tynnu llun o'r tacsi a'i anfon at ffrind neu peidiwch teithio ar eich pen eich hun os yn bosibl."

Ychwanegodd nad oedd y gefnogwraig wedi ei hanafu a'i bod am i eraill fod yn ymwybodol o'r peryglon.

Fe fydd Cymru'n herio Armenia yn y brifddinas ddydd Sadwrn mewn gêm dyngedfennol, ac mae disgwyl i dros 1,000 o gefnogwyr y Wal Goch i deithio i'r wlad ar gyfer y gêm.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.