Heddlu Dyfed Powys 'angen gwella sut mae’n diogelu pobl sy'n agored i niwed'
Mae arolwg o waith Heddlu Dyfed Powys wedi dod i'r casgliad fod y llu "angen gwella sut mae’n diogelu pobl sydd yn agored i niwed."
Daeth yr arolwg gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi hefyd i'r casgliad bod angen i'r llu wella o ran adeiladu a datblygu ei weithlu.
Cafodd y rhan helaeth o agweddau o waith y llu, gan gynnwys ymchwilio i droseddau, ymateb i'r cyhoedd a rheoli troseddwyr eu mesur gan yr Arolygiaeth fel rhai 'digonol'.
Wrth ystyried gwaith y llu o amddiffyn pobl fregus, dywedodd yr asesiad bod rhaid i’r llu "sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau sy’n ymwneud â cham-drin domestig yn cael eu hasesu’n briodol.
"Yn ystod ein harolygiad, gwnaethom nodi mwy na 3,000 o ddigwyddiadau yr oedd y feddalwedd wedi nodi nad oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer adolygiad pellach.
"Adolygom 230 o’r digwyddiadau hyn yn fanylach, a chanfod sawl achos lle cymhwyswyd y lefelau risg anghywir."
'Ymosodiadau difrifol'
Ychwanegodd yr Arolygiaeth: "Canfu ein harolygiad ymosodiadau difrifol, bygythiadau i ladd, digwyddiadau o dagu a threisio nad ydynt yn angheuol, a digwyddiad lle’r oedd menyw wedi cael ei bygwth â lamp losgi wedi’i goleuo.
"Roedd y system wedi graddio’r digwyddiadau hyn fel risg safonol.
"Gwnaethom adolygu un achos o drais rhywiol yn gysylltiedig â cham-drin domestig lle’r oedd y cyn-bartner (troseddwr) yn parhau i gam-drin yn rhywiol a stelcio’r dioddefwr.
"Ni chodwyd y lefel risg gan y ditectif gwnstabl, y ditectif ringyll na’r arolygydd a adolygodd yr achos. Gadawodd hyn y dioddefwr yn agored i niwed parhaus."
Ychwanegodd yr adroddiad bod Heddlu Dyfed Powys "wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob digwyddiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig asesiad risg eilaidd gan staff arbenigol erbyn hyn.
"Rhaid i’r llu sicrhau bod yr ymrwymiad hwn i asesiad risg eilaidd ym mhob achos o gam-drin domestig yn effeithiol, a bod pawb yn ei ddeall."
Hyfforddiant
Dywed yr adroddiad hefyd fod hyfforddiant diogelu a bregusrwydd ar gyfer staff rheng flaen a’u goruchwylwyr "yn anghyson".
Yn 2022, rhoddodd y llu hyfforddiant bregusrwydd gorfodol i staff rheng flaen a swyddogion yr adran ymchwilio i droseddau.
Ond nid oedd rhai goruchwylwyr wedi cael unrhyw hyfforddiant mewn bregusrwydd ac asesu risg.
Dywedodd y llu wrth yr Arolygiaeth fod 64 o ringylliaid ymateb mewn rôl oruchwylio. Ond cofnododd y llu mai 34 oedd wedi cael hyfforddiant Materion Cam-drin Domestig.
Er y feirniadaeth, ychwanegodd yr adroddiad fod y llu wedi gwella sut mae’n defnyddio’r pwerau sydd ar gael i ddiogelu pobl agored i niwed, ac mae'r llu yn deall ei ddefnydd o bwerau i ddiogelu pobl, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gam-drin domestig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Steve Cockwell: “Fel heddlu, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cymunedau, ac rydym yn derbyn canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn.
“Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod y safonau rydym wedi’u cyflawni ynghylch ymchwilio’n effeithiol i droseddu, a sut mae’r gwaith rydym yn ei wneud ar y cyfan yn cadw pobl yn ddiogel, yn lleihau trosedd ac yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddioddefwyr. Rwy’n arbennig o falch o weld bod dealltwriaeth swyddogion o bwysigrwydd ymddygiad priodol a chyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd, a’n cryfderau o ran datrys problemau, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i atal, a deall ein harian wedi’u hamlygu.
“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn seiliedig ar arolygiad a gynhaliwyd rhwng Ionawr a Mehefin 2023 ac rydym eisoes wedi dechrau rhaglen waith i wneud gwelliannau yn y meysydd a nodwyd.”