Newyddion S4C

Tractors AI yn 'fuddiol i lawer o ffermydd yn y dyfodol'

16/11/2023

Tractors AI yn 'fuddiol i lawer o ffermydd yn y dyfodol'

Ai dyma'r ffordd ymlaen i amaethu yng Nghymru? Tractor AI sy'n gallu gyrru ei hun a gweithio ddydd a nos.

Heb yrrwr does dim angen stop i gael paned a bwyd. Unwaith mae'r wybodaeth am y cae wedi ei fwydo i'r tractor i ffwrdd a fo.

Mae gynno hi lot o dechnoleg i weld be sy o'i blaen hi ond rhaid rhoi programme trwy bortal.

'Dan ni'n marcio cae allan, defnyddio GPS marcio pedwar pwynt. Unrhyw beth sydd yn y cae, coeden, llyn neu bolyn electric marcio hwnnw allan. Mae'r wybodaeth yn cael ei fwydo mewn i'r tractor.

Yna mae'r tractor yn cario 'mlaen efo'i waith. I fyny i rŵan mae tractorau o'r fath wedi bod yn cael eu treialu ar gaeau mawr llawr gwlad Lloegr ar ffermydd ac yn y diwydiant llysiau a ffrwythau.

Mae modd rhoi pob math o beiriannau y tu ôl iddo ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei dreialu ar dir glas. Fe allai ddod a phob math o fanteision o gostau llai... ..i wella diogelwch ar ffermydd.

Yr ochr gynta, dw i'n meddwl, yw efo llafur. Torri costau llafur. O safbwynt y pridd, mae'r teclyn yma yn gwneud llai o compression. Mae'n medru gweithio mewn gwahanol dywydd.

O ran diogelwch mae gymaint o ffermwyr yn cael eu lladd bob blwyddyn.

Mae'r teclyn yn medru gweithio ar ben ei hunan does dim angen i rywun fod ar y tractor.

Ond be oedd barn rhai o ddisgyblion amaeth Glynllifon i'r tractor arbennig maen nhw'n cael y cyfle i ddysgu amdano?

Dw i'n gweld y tractor yn ddefnyddiol iawn. Efo tymor y gaeaf, mae'n ddefnyddiol i fynd ar y caeau.

Mae'r gallu i fynd i fwy o lefydd yn ddefnyddiol iawn. Peiriant da iawn yn fy marn i. Bydd e'n fuddiol i lawer o ffermydd yn y dyfodol. Wrth drin a thrafod y tir, llawer o gostau llafur yn cael eu cutio i lawr.

Bydd o'n reit handi i ffermydd mawr efo lot o waith i wneud.

Handy gallu gwneud 24 hours, drwy'r dydd. Dw i'n siŵr y byddai llawer yn hoffi cael yr Agbot ar eu ffermydd ond efo pris o bron i £400,000 mae'n annhebygol y daw yn declyn cyfarwydd ar ffermydd Cymru yn y dyfodol agos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.