Siaradwyr Cymraeg ifanc yn gweld yr iaith 'yn fanteisiol i’w gyrfaoedd'
Mae siaradwyr Cymraeg rhwng 16-18 oed yn gweld yr iaith yn fanteisiol i’w gyrfaoedd ac mae'r cyfleoedd i astudio drwy’r Gymraeg yn bwysig iawn iddynt, yn ôl ymchwil newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Roedd y mwyafrif helaeth o'r myfyrwyr a holwyd mewn ysgolion a cholegau addysg yn dweud bod eu profiad o addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn dda neu’n dda iawn.
Dywedodd 90% o’r bobl ifanc a holwyd eu bod nhw’n falch o allu siarad Cymraeg ac roedd dros 80% yn teimlo y bydd yr iaith o gymorth iddynt wrth sichrau swyddi yn y dyfodol.
Ond dim ond 60% sydd yn teimlo yn hyderus y byddant yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd.
Fe wnaeth dros 1,000 o bobl ifanc ledled Cymru ymateb i’r ymchwil.
Cafodd dysgwyr ôl-16 mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog mewn ysgolion a cholegau addysg bellach eu holi, gyda’r nod o ddarganfod beth oedd eu rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg.
O’r siaradwyr Cymraeg sy’n bwriadu parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg, dim ond 40% oedd yn bwriadu aros yng Nghymru.
Lleoliad dysgu
Tra bod yr ymateb yn gyffredinol yn gadarnhaol am y gallu i dderbyn addysg Gymraeg a'r ddarpariaeth sydd ar gael, roedd cryn wahaniaeth yn ddibynnol ar leoliad dysgu.
Mae’r ymchwil yn awgrymu bod gwahaniaethau amlwg rhwng dysgwyr ysgol a choleg, o ran eu canfyddiad o'u gallu yn y Gymraeg, cyfrwng iaith eu haddysg a'u hagweddau at bwysigrwydd y Gymraeg.
Un o brif rhesymau myfyrwyr dros beidio â dewis astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg oedd y teimlad bod eu sgiliau Saesneg yn gryfach a bod astudio drwy gyfrwng y Saesneg yn haws iddynt.
Roedd rhai hefyd yn dweud nad oedd pwnc (neu bynciau) ar gael yn Gymraeg a bod eu hastudiaethau pellach yn debygol o fod yn Saesneg.
Polisïau
Yn ôl Comisynydd y Gymraeg, bydd angen ystyried y canlyniadau yn ofalus hyn wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod yr ymchwil yn "dangos yn glir pwysigrwydd y Gymraeg i ddysgwyr yng Nghymru."
“Mae’r mwyafrif helaeth yn falch o fod yn gallu siarad yr iaith ac yn nodi bod cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig wrth ddewis man astudio, yn ogystal â chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd yr ysgol neu’r coleg a gyda’u ffrindiau," meddai Ms Jones.
“Mae angen serch hynny roi ystyriaeth bellach i resymau dysgwyr dros beidio â dewis astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n bryderus nodi’r gwahaniaeth rhwng argaeledd cyrsiau drwy’r Gymraeg yn ein colegau o’i gymharu â’n hysgolion.
“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud ymdrechion sylweddoI i fynd i'r afael â gwella darpariaeth Gymraeg yn y colegau addysg bellach, ond mae hefyd angen atgyfnerthu'r ddarpariaeth allweddol sy'n bodoli mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog," meddai.
Blaenoriaeth
Mae Maddie Pritchard, yn fyfyriwr chweched dosbarth yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera ac yn faer ieuenctid yng nghyngor Castell nedd Port Talbot.
Dywedodd Maddie: “Fel maer ieuenctid fe wnes i osod y Gymraeg fel un o fy mlaenoriaethau gan mod i’n teimlo fod yr iaith yn bwysig i ni fel pobl ifanc, o ran ein bywydau bob dydd, yn yr ysgol ac yn ein cymunedau.
“Rwy’n falch o weld yr agweddau cadarnhaol sydd yn cael eu hamlygu yn yr ymchwil hwn gan ei fod yn adlewyrchu yr hyn rwyf i yn ei brofi o ddydd i ddydd.
“Ond mae angen mynd i’r afael gyda’r rhesymau pam fod rhai yn dewis peidio astudio drwy’r Gymraeg ac ymateb yn ymarferol i hynny."
Mae’r ymchwil yn nodi y bydd angen ystyried yn ofalus sut mae cefnogi ac adeiladu ar y ddarpariaeth sydd mewn lle ar hyn o bryd ac i roi ystyriaeth genedlaethol ynghylch beth fydd rôl ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wrth gynllunio addysg ôl-orfodol y dyfodol.
Dylai hyn gynnwys cydweithio ar lefel ranbarthol rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach i sicrhau fod darpariaeth ddigonol ar gael er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr ôl-16 mewn addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.