Newyddion S4C

'Chwarae gemau cyfrifiadurol wedi fy helpu drwy gyfnodau caled'

17/11/2023

'Chwarae gemau cyfrifiadurol wedi fy helpu drwy gyfnodau caled'

Mae dyn ifanc o Lanelwy yn dweud bod chwarae gemau cyfrifiadurol wedi ei helpu i “ddianc i’w le hapus” ar ôl dioddef blynyddoedd o fwlio yn y gorffennol.

Mae Dylan Owen, sy’n 21 oed, yn un o lysgenhadon Plant Mewn Angen eleni.

Gyda'r rhaglen deledu elusennol yn cael ei darlledu nos Wener, mae apêl arbennig o’r enw Game to Give wedi ei lansio ar gyfer eleni, sydd yn canolbwyntio ar gemau cyfrifiadurol a’r buddion y maent yn eu cynnig i blant â phobl ifanc.

Ar gyfer lansiad yr apêl, a gafodd ei gynnal ym Manceinion ym mis Medi, fe wnaeth Dylan arwain dawns ar y gêm Just Dance gyda Pudsey a seren Stricly Come Dancing, Aljaž Škorjanec, a llu o ddawnswyr eraill.

Mae Dylan yn byw gyda’r cyflwr prin ARSACS, sydd yn golygu ei fod angen defnyddio cadair olwyn yn ddyddiol. Mae hefyd gydag awtistiaeth ac ADHD.

Ond mae Dylan yn dweud, “nad yw ei anabledd ei ddiffinio”, wrth iddo chwarae rhan flaenllaw yng ngweithgareddau’r grŵp celfyddydol Wicked Wales yn y Rhyl, sydd yn derbyn cefnogaeth gan Blant Mewn Angen.

“Mae gaming yn rhan bwysig iawn o’m mywyd i,” meddai Dylan. 

“Dwi wedi chwarae gemau ers o’n i’n bedair oed. Mae’n rhywbeth sy’n gadael i ti ddianc o realiti a’r pethau negatif mewn bywyd, i rywle ffantasi sydd yn gyfforddus i chdi, a lle wyt ti’n gallu bod dy hun.

“Drwy ysgol uwchradd ges i fy mwlio’n ddifrifol am fod yn hoyw ac yn anabl, a just am fod fy hun rili.

“Ond bob tro wnaeth hynny ddigwydd, fyswn i’n dod adra, rhoi gêm ymlaen a chwarae rhywbeth fydda’n codi fy nghalon a’n gwneud yn hapus. Doedd o ddim yn neis, ond rŵan dwi’n edrych yn ôl a dwi’n meddwl mai dyna ‘naeth fy ngwthio i fod y fersiwn gorau o fy hun heddiw.

“Mae gaming wedi rhoi’r cyfle i mi fod fy hun mewn ffyrdd doeddwn i ddim yn gwybod oedd yn bosib.”

‘Diva’

Yn ogystal â chwarae gemau, mae Dylan wrth ei fodd yn perfformio gyda grŵp Wicked Wales. Fel rhan o’u gweithgareddau, mae Dylan wedi cynnal digwyddiadau gemau cyfrifiadurol, arwain sioe drag a bod yn destun ffilm am ei fywyd.

“Da ni’n gwneud lot o gynyrchiadau, a chyflwyno efo Wicked Wales. Dwi wedi cyflwyno lot o ddigwyddiadau iddyn nhw. Yn ddiweddar naethon ni gwneud digwyddiad Eurovision lle’r oeddwn i wedi gwneud fy sioe drag gyntaf erioed, oedd yn brofiad amazing.

Image
Dylan yn perfformio mewn sioe drag
Dylan yn perfformio mewn sioe drag

“Dwi’n caru dawnsio a pherfformio, dyna ydi fy mheth i. Dyna dwi wrth fy modd yn wneud. Ac i wybod fy mod i’n gwneud i bobl wenu a chwerthin efo be dwi’n ei wneud, mae’n deimlad anhygoel. Dwi just yn licio bod yn dipyn o goofball rili a bod yn diva.

“Dwi’n gobeithio cyrraedd Hollywood, a bod ar hyd screens pobol, achos dwi wrth fy modd yn perfformio a gwneud i bobl wenu hefo be dwi’n caru ei wneud. Felly dwi’n gobeithio bod ar y sgrin a gwneud i bobl wenu.

“Mae bod yn anabl yn anodd ond dydi o ddim yn deffinio pwy ydw i achos dwi dal yn gallu gwneud yr holl bethau dwi’n caru gwneud. Dwi just yn gwneud nhw mewn ffordd unique a ffordd fy hun.”

'Trawsnewid bywydau'

Dywedodd Rhiannon Hughes MBE, cyfarwyddwr Wicked Wales ei bod yn falch iawn o weld Dylan yn cynrychioli’r grŵp ar noson Plant Mewn Angen.

“Mae Wicked yno ar gyfer y bobl ifanc, mae popeth da ni’n ei wneud ar ey gyfer nhw. Ac maen nhw’n camu i fyny bob tro. Maen nhw’n dysgu sut i greu ffilmiau, sut i redeg y sinema, sut i’w farchnata, a gwerthu’r popcorn. Ond maen nhw’n wneud ffrindiau newydd hefyd, a dysgu gweithio mewn tîm. i yw’r cyswllt rhwng dysgu a’r gweithle, mewn ffordd.

“Mae cyfraniad Plant Mewn Angen yn bwysig iawn i ni. Dros y blynyddoedd mae eu harian wedi bod yn bwysig, achos dydyn nhw ddim i gyd am y rhifau. Maen nhw’n canolbwyntio ar sut y gallwn ni drawsnewid bywydau pobl.

“Dwi wedi cael y pleser o weithio hefo Dylan dros y blynyddoedd diwethaf. Mae o wedi gorfod ymdopi hefo sawl her yn ei fywyd ifanc, ond mae o’n berson arbennig iawn. 

"Mae ganddo’r ddawn o godi ysbryd rhywun gyda’i agwedd bositif ac mae wedi ysbrydoli a rhoi hyder i sawl person ifanc arall.”

Llun: BBC Plant Mewn Angen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.