Chweched person wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llundain
Mae chweched person wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng ngorllewin Llundain nos Sul.
Roedd pump aelod o’r un teulu eisoes wedi eu cadarnhau yn farw, a roedd y chweched person ar goll.
Mae Heddlu’r Met bellach wedi cadarnhau eu bod bellach wedi darganfod corff person arall yn sgil y tân, a ddigwyddodd yn ardal Hounslow.
Roedd y llu eisoes wedi cadarnhau bod pump o bobl wedi marw ar lawr cyntaf yr adeilad.
Y gred yw mai plant oedd tri o'r rhai a fu farw.
Cafodd 10 injan dân a thua 70 o ddiffoddwyr tân eu galw i dŷ yn Hounslow am 22:26 nos Sul yn ôl Brigâd Dân Llundain.
Gadawodd un dyn y tŷ cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd ond cafodd ei gludo i'r ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y tân o dan reolaeth erbyn 01:25 fore Llun, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r hyn achosodd y tân.