Mam i bump o Fangor yn dathlu ar ôl ennill £1 miliwn ar y loteri
Mae mam i bump o Fangor wedi dweud ei bod yn “llawn emosiwn” wedi iddi ennill £1 miliwn ar y loteri.
Fe enillodd Ceri Ann Roscoe-Roberts, 42 oed, yr arian wedi iddi ddeffro ar fore Gwener gyda “greddf gref” bod yn rhaid iddi brynu tocyn EuroMillions, gan y Loteri Genedlaethol.
Fe gafodd Ms Roscoe-Roberts wybod y bore wedyn ei bod wedi ennill: “Roedd rhywbeth yn dweud wrthyf pan ddeffrais fore Sadwrn fy mod i wedi ennill.
“Roedd e’n deimlad hollol ryfedd,” meddai.
“Roedd rhaid i mi binsio fy hun… ‘odd o’n teimlo fel bod yng nghanol breuddwyd, nid fel fy mywyd go iawn.”
‘Dathlu’
Dywedodd Ms Roscoe-Roberts, sy’n rheolwr cwmni cartref gofal, a’i gŵr Paul, sy’n rheolwr ar gwrs golff, eu bod nhw’n benderfynol o barhau i weithio er eu henillion newydd.
Gyda phump o blant, mae hi'n awyddus i brynu tŷ newydd ar gyfer ei theulu.
“Mae’r ddau ohonom yn caru ein swyddi felly does dim bwriad ‘da ni i roi’r gorau i weithio,” meddai Ceri Ann Roscoe-Roberts.
“Ond mae tŷ sy’n fwy o faint yn bendant ar ein rhestr siopa – mae'n rhywbeth ‘da ni ‘di bod eisiau ers tro erbyn hyn.
“A nawr mae ganddom y gallu i brynu’r tŷ rydym wedi bod yn breuddwydio amdano.”
Mae hi eisoes wedi prynu ci bach gyda’i henillion, ond mae’n awyddus i barhau i fyw bywyd “normal,” meddai.
Fe enillodd Ceri Ann Roscoe-Roberts £1 miliwn ar loteri'r EuroMillions ar 3 Hydref.
Llun: Y Loteri Genedlaethol/Andy Devlin