Dyfalu y gallai'r Cymro Syr Dave Brailsford chwarae rhan allweddol yn nyfodol Manchester United
Fe allai’r Cymro Syr David Brailsford chwarae rhan bwysig yn nyfodol clwb bêl-droed Manchester United.
Mae’r Manchester Evening News yn adrodd bod y gŵr o Ddeiniolen, sydd yn gyfarwyddwr chwaraeon ar gwmni Ineos, wedi ymweld â maes hyfforddi’r tîm yn Carrington ddwywaith dros yr wythnosau diwethaf.
Daw hynny yn dilyn adroddiadau y bydd sylfaenydd Ineos, Syr Jim Ratcliffe, yn prynnu cyfran o 25 % o’r clwb, sydd yn werth £1.3 biliwn.
Mae Mr Brailsford, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Brynrefail, yn adnabyddus am ei lwyddiannau ym myd seiclo, wedi iddo arwain tîm seiclo Prydain at frig tabl y medalau yng Ngemau Olympaidd 2008 a 2012.
Yn fwy diweddar, mae Mr Brailsford wedi gweithio fel arweinydd timau seiclo Sky ac Ineos drwy gyfnodau llewyrchus, gan ennill y Tour de France ar sawl achlysur.
Yn ei rôl ehangach fel cyfarwyddwr chwaraeon Ineos, mae Mr Brailsford wedi gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Nice, yn Ffrainc, sydd yn eiddo i Mr Ratcliffe.