Newyddion S4C

'Pencampwr dros Gymru': Teyrngedau i’r Arglwydd David Rowe-Beddoe

16/11/2023
David Rowe-Beddoe

Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Arglwydd David Rowe-Beddoe, a fu farw yn 85 oed. 

Roedd y gŵr busnes yn gadeirydd cyntaf ar Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ac mi oedd yn gyn-gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru, yn ogystal â chadeirydd Maes Awyr Caerdydd hyd at 2016. 

Yn ddyn crefyddol, roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe hefyd yn gadeirydd dros Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru am gyfnod o 10 mlynedd, o 2002 hyd nes iddo ymddeol yn 2012.

Mae Archesgob Cymru, Andrew John, wedi arwain gyda’r teyrngedau gan ei ddisgrifio fel dyn o "dalent ac egni aruthrol” oedd â “ffydd Gristnogol gryf.”

“Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe wedi ymrwymo i’w rôl yn yr Eglwys yng Nghymru, gan berfformio’n rhagorol a rhoi ei amser a’i gefnogaeth yn ddiflino.

“Rydym yn ddiolch am ei fywyd ac am ei ymroddiad a’i gefnogaeth i’r Eglwys ac rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant gyda’i deulu. 

“Gorweddwch mewn heddwch a chodwch mewn gogoniant, David,” meddai.

‘Pencampwr dros Gymru’

Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn gerddor brwd, ac roedd ganddo bartreniaeth hirdymor gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd yn gadeirydd dros y sefydliad rhwng 2000 a 2004, a ddaeth yn Arlywydd yn fuan wedyn am gyfnod o 15 mlynedd. 

Dywedodd pennaeth y coleg, Helena Gaunt: “Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn hyrwyddwr eithriadol dros y Coleg am nifer o ddegawdau, ac mae ei gefnogaeth i genedlaethau o fyfyrwyr wedi bod yn anfesuradwy,” meddai. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y gwleidydd ac Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Peter Hain ei fod yn “hynod o drist” i glywed am ei farwolaeth. 

“Roedd yn bencampwr dros Gymru a phopeth Cymreig," meddai. 

Fe gafodd marwolaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe ei gyhoeddi yn Dŷ’r Arglwyddi prynhawn Fercher.

Llun: Chris McAndrew/Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.