Yr Arlywydd Biden yn 'weddol obeithiol' am gytundeb i ryddhau 200 o wystlon o Gaza
Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud ei fod yn “weddol obeithiol” am gytundeb i ryddhau dros 200 o bobl sy’n cael eu dal fel gwystlon yn Gaza, gan Hamas.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn nhalaith Califfornia, dywedodd Mr Biden fod yr Unol Daleithiau wedi gweld “cyd-weithio gwych” gan Qatar, sy’n arwain trafodaethau rhwng Israel a Hamas.
Daw wedi i luoedd Israel gyhoeddi eu bod wedi dechrau ymgyrch yn erbyn Hamas ym mhrif ysbyty Gaza.
Mae’r ymgyrch wedi’u disgrifio gan yr Israel Defense Forces (IDF) fel un sydd ‘wedi ei thargedu’ o fewn 'ardal benodol' yn ysbyty Al-Shifa, a fu’n galw ar holl aelodau Hamas sydd yn bresennol yn yr ysbyty i ildio ar unwaith.
Mae Israel eisoes wedi honni eu bod wedi canfod arfau ac offer milwrol arall yn perthyn i Hamas tu fewn i’r adeilad, ond mae Hamas wedi eu gwadu.
Ond mae’r Arlywydd Biden bellach wedi condemnio Hamas am gyflawni "trosedd rhyfel" drwy gadw canolfan milwrol oddi tan yr ysbyty. Mae’n annog Israel i sicrhau fod trigolion lleol yn cael eu diogelu yn ystod yr ymgyrch.
Ar ffin Israel-Libanus, dywedodd yr IDF yn hwyr nos Fercher eu bod wedi ymateb i “sawl lansiad tuag at diriogaeth Israel" o Libanus.
Yn yr Unol Daleithiau, mae’r heddlu wedi dweud fod o leiaf chwe swyddog wedi eu hanafu yn dilyn protest oedd yn galw am gadoediad gan Israel yn Gaza, tu allan i swyddfeydd Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd yn Washington. Mae o leiaf un person bellach wedi’i arestio.