Newyddion S4C

Cadw cefnogwyr y Wal Goch yn ddiogel ar deithiau tramor

18/11/2023
FSA Cymru

Ar drothwy gêm hollbwysig Cymru yn erbyn Armenia mae grŵp FSA Cymru, sef Llyshgenhadaeth Cefnogwyr Cymru wedi bod yn paratoi ers wythnosau i gadw cefnogwyr yn ddiogel yn y wlad.

Mae hwn yn rhywbeth mae'r tîm bychan o dri yn ei wneud cyn pob gêm Cymru tramor er mwyn sicrhau bod ganddynt gymaint o wybodaeth â sy'n bosibl am y wlad a sut i gadw pawb yn ddiogel a mwynhau eu cyfnod yno.

Mae grŵp FSA Cymru yn rhan o'r Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed, sydd yn cyd-weithio gyda Chymdeithasau Pêl-droed ledled y DU i wella'r berthynas rhwng cefnogwyr a sefydliadau swyddogol y byd pêl-droed.

Paul Corkrey yw un o'r tri sydd yn rhedeg y grŵp yng Nghymru a mae e  wedi gwneud hynny am nifer o flynyddoedd.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd ei fod wedi paratoi ar gyfer y daith i Armenia ers rhai misoedd ac wedi teithio yno ei hun.

"Dwi wedi bod yn gweithio ar fy fan guide dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys teithio i Armenia tua chwech wythnos yn ôl, mynd i'r stadiwm a mynd i gyfarfodydd diogelwch," meddai.

"Dwi bob tro yn ceisio cael nifer y tocynnau sy'n bosib ac mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn gweithio gyda ni ar hwnna i ddarganfod beth sy'n gweithio orau ar yr ochr ddiogelwch hefyd.

"Mae angen i ni ddeall pa gyfleusterau sydd yno, beth sydd orau o ran ffônau symudol a phethau syml fel gwneud yn siŵr bod dŵr ar gael i gefnogwyr."

Image
Fan guide Armenia
Llawlyfr  Armenia. Llun: Paul Corkrey

Ychwanegodd fod rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud cyn i'r ymgyrch ragbrofol ddechrau, a bod hynny yn hollbwysig fel bod gan y cefnogwyr yr holl wybodaeth cyn teithio.

Mae'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyfathrebu gyda chefnogwyr, ac mae llinell ffon 24 awr ar gael i gefnogwyr gysylltu pe bai angen.

"Bydd tri ohonom yn gweithio trwy gydol y 24 awr ar alwad os oes unrhyw beth yn digwydd i'r cefnogwyr, fel colli eu pasbort ac ati.

"Rydym yn cydweithio gyda'r Swyddfa Dramor ac mae modd i ni gael pasbort yn eithaf cloi i rywun os ydynt yn ei golli."

Cynorthwyo pob cefnogwr

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn defnyddio system lle mae cefnogwyr yn cael eu gosod mewn categorïau yn dibynnu ar y nifer y gemau oddi cartref maen nhw eu mynychu.

Golyga hyn fod cefnogwyr sydd wedi mynychu'r nifer fwyaf o gemau oddi cartref yn cael eu gosod yn y categorïau uwch, ac felly yn fwy tebygol o gael tocynnau ar gyfer gemau oddi cartref y dyfodol.

Dywedodd Mr Corkrey wrth Newyddion S4C bod nifer o gefnogwyr y gemau oddi cartref yn wynebau cyfarwydd erbyn hyn, ond bod 'na wynebau newydd bob tro hefyd.

"Rydym yn cerdded o gwmpas lle mae cefnogwyr Cymru fel arfer, ac yn mynychu y mannau casglu tocynnau hefyd. Nid ydym mewn un lle ac mae pobl yn gwybod lle i gysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae rhai yn teithio ar eu pen eu hunain ac weithiau ddim yn siŵr beth i wneud. Mae rhai wedi gofyn cwestiynau mae'n nhw'n meddwl sydd yn dwp fel 'ble mae'r dafarn agosaf?' neu 'ble mae cefnogwyr Cymru?'.

"Os ydw i'n rhannu'r wybodaeth honno weithiau mae rhai yn meddwl ei fod yn wastraff amser. Ond efallai ei fod yn helpu un person ac os dwi'n gwneud hynny, mae e werth gwneud.

"Dwi bob tro yn trin pobl fel petai hon yw eu gêm gyntaf nhw, ac i lot o bobl dy'n nhw ddim wedi bod i'r wlad honno o'r blaen."

Image
Cefnogwyr Cymru yn Latfia
Cefnogwyr Cymru yn Latfia ym mis Medi. Llun: Paul Corkrey

Ar ddiwrnod y gêm bydd Paul Corkrey ac FSA Cymru yn y stadiwm tua thair awr cyn y gic gyntaf, a'u prif nod yw sicrhau bod pob un cefnogwr yn cael gwylio'r gêm a bod unrhyw un sydd ddim yn cael dod mewn i'r stadiwm yn ddiogel.

"Os ydy rhwyun yn cael ei wrthod rhag dod mewn i'r stadiwm neu wedi cael eu taflu allan, rydym yn aros gyda nhw am ychydig i aros am ambiwlans neu heddlu neu i sichrhau eu bod nhw yn cael eu cludo nôl i'r gwesty yn iawn.

"Weithiau rydym yn teithio gyda nhw i'r orsaf heddlu ac yn cyd-weithio gyda'r heddlu os yw cefnogwyr wedi cael eu harestio neu eu bod nhw mewn trafferth.

"Rydym yn ceisio bod y cyswllt hynny rhwng yr heddlu a'r cefnogwyr. Er enghraifft, os yw'r heddlu yn dweud bod y cefnogwyr yn rhy swnllyd, byddwn yn siarad gyda'r cefnogwyr er mwyn sortio hynny.

"Dydyn ni ddim yn chwilio am bethau i wneud bob tro, ond rydym yno bob amser i gefnogwyr sydd ein hangen."

'Dim gwaith yn beth da'

Pan mae'r daith dramor yn dod i ben, mae FSA Cymru yn cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i drafod yr hyn ddigwyddodd yno ac unrhyw broblemau a gododd.

I Paul Corkrey, os nad oes unrhyw beth ganddo i adrodd yn y cyfarfod hwnnw, mae'n golygu bod y daith wedi bod yn llwyddiant.

"Pan dwi'n dychwelyd adref ac wedi cael amser tawel, dim galwadau ffôn, neb yn yr ysbyty neu wedi cael eu harestio, mae hynny yn llwyddiant i mi.

"Dwi ddim eisiau bod yn brysur, achos mae hynny yn golygu bod rhywbeth wedi mynd o'i le. 

"Y peth gorau i ni yw bod pethau'n dawel, bod pawb wedi cael amser da a bod Cymru yn ennill, wrth gwrs."

Llun: Paul Corkrey

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.