ASau yn codi pryderon am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg
Mae ASau wedi codi pryderon am gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050.
Fe wnaeth Jeremy Miles roi datganiad i’r Senedd i nodi cyhoeddi adroddiad blynyddol ar strategaeth Cymraeg 2050.
Roedd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn cydnabod bod y cyfrifiad diweddaraf yn dangos gostyngiad, gyda 538,300 o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.
Dywedodd ei fod yn bwysig cofio nad yw’r cyfrifiad yn mesur defnydd iaith: “Mae’r nifer sy’n defnyddio ein hiaith ar draws y wlad a thu hwnt…yr un mor bwysig i weledigaeth Cymraeg 2050 ag yw nifer y siaradwyr. Ni fyddwn yn colli golwg ar hynny.”
'Dirywiad'
“Cynyddodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddau ddegawd cyn datganoli ond mae’r nifer wedi gostwng yn y ddau ddegawd ers hynny – rhaid gwrthdroi’r dirywiad hwn," meddai Samuel Kurtz, gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr ar yr iaith Gymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’n rhaid i ni gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gynnal cynnydd tuag at dargedau 2050.”
Dywedodd Mr Miles wrth y Senedd: “Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn rhoi syniad clir i ni o’r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol.
“Mae yna ddau faes amlwg. Y gostyngiad yn nifer y plant pump i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn ein hatgoffa bod angen i ni gryfhau ein dull o addysgu Cymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, yn ogystal ag ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.”
Ychwanegodd Mr Miles mai'r ail fater allweddol oedd dirywiad yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.
Mae Mr Miles wedi comisiynu arolwg sosio-ieithyddol i ddeall yn well beth sydd y tu ôl i'r dirywiad a llywio ymyriadau i wrthdroi'r duedd.
Deddfwriaeth
Tynnodd Mr Miles sylw at gyhoeddi papur gwyn ar fesur Addysg Gymraeg.
Dywedodd ei fod yn anelu at sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol fel siaradwyr Cymraeg hyderus, waeth beth fo cyfrwng y dysgu.
Dywedodd Mr Miles wrth ASau: “Mae honno’n uchelgais y byddwn i’n dadlau sydd yr un mor uchelgeisiol – efallai’n fwy uchelgeisiol na – y miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Felly, wrth i ni gyflwyno hynny, bydd angen i ni ddeall y camau tuag at hynny yn union, fel yr ydym ni eisoes yn ei wneud gyda thrywydd Cymraeg 2050.”
'Siom'
Tynnodd Mr Miles sylw hefyd at y gwahaniaeth rhwng data’r cyfrifiad ac arolygon poblogaeth blynyddol Llywodraeth Cymru.
Ond dyw Heledd Fychan, gweinidog cysgodol Plaid Cymru, ddim yn derbyn y ddadl yn llawn.
“Y gwir amdani yw, o ran y mesuryddion yn Cymraeg 2050 i gynyddu canran y dysgwyr blwyddyn un sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, y targed yw 26% erbyn 2026," meddai.
“Mae yna ostyngiad wedi bod o 23.9% yn 2021-22 i 23.4% yn 2022-23.
“O ran disgyblion blwyddyn saith yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gostyngiad o 20.1% i 19.3%.
“Dyma’r ffigyrau sy’n cyfri o ran faint sy’n derbyn addysg Gymraeg. Felly, gallwn ddadlau a yw canlyniadau’r cyfrifiad yn gywir ai peidio, ond dyma’r ffigurau yn y targedau ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg.”
Yn ôl Mr Miles mae'n bwysig dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng setiau data.
Wrth annerch y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd: “Wrth edrych ymlaen, er gwaethaf yr heriau a gyflwynir gan ganlyniadau’r cyfrifiad, mae’r naratif o amgylch y Gymraeg yn sicr wedi newid ac mae mwy o gefnogaeth nag erioed i’r iaith.
“Roedd y genedl gyfan yn siomedig gyda data’r cyfrifiad, ac mae’n rhaid i ni gyd afael yn yr egni a’r brwdfrydedd hwnnw i gydweithio i wneud gwahaniaeth i’r Gymraeg.”