Newyddion S4C

Hillary a Bill Clinton i ymweld â dinas Abertawe

16/11/2023
Hillary a Bill Clinton

Bydd cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, a’i gŵr, y cyn arlywydd Bill Clinton, yn ymweld â dinas Abertawe ddydd Iau. 

Fe fydd y gwleidyddion byd-enwog yn ymweld â’r ddinas fel rhan o bartneriaeth hirdymor gyda Phrifysgol Abertawe.

Bydd y pâr yn cwrdd â’r Prif Weinidog Mark Drakeford yno, gan gynnal trafodaeth ar arweinyddiaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

Dyma fydd y tro cyntaf i Ms Clinton ddychwelyd i’r brifysgol ers 2019, cyn cyfnod y pandemig. 

Fe gafodd Ms Clinton ei hanrhydeddu gan Brifysgol Abertawe am ei hymrwymiad i hawliau dynnol, ei gyrfa wleidyddol, ac er mwyn dathlu ei chysylltiadau hanesyddol gyda'r ddinas yn 2017. 

Yn 2021, ac yn sgil cyfyngiadau teithio cyfnod y pandemig, fe wnaeth Ms Clinton arwain seremoni raddio ar-lein ar gyfer ysgolheigion Prifysgol Abertawe.

Mae Ms Clinton yn adnabyddus am gyflawni sawl un rôl o fewn y byd gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau.

Fel aelod o’r blaid Ddemocrataidd, Ms Clinton oedd y ddynes gyntaf i gael ei henwebu gan ei phlaid i gystadlu yn ras arlywyddol yr UDA yn 2016, ond fe gollodd i’r cyn-arlywydd Donald Trump.

Roedd y gwleidydd hefyd yn gyn-ysgrifennydd gwladol yr UDA rhwng 2009 a 2013, dan arweinyddiaeth y cyn-arlywydd Barack Obama.

Llun: Niall Carson/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.