Newyddion S4C

Euro 2020: Cymru yn 'ysbrydoli' disgyblion Ysgol Ystalyfera

Newyddion S4C 11/06/2021

Euro 2020: Cymru yn 'ysbrydoli' disgyblion Ysgol Ystalyfera

Ar ôl blwyddyn o aros, mae pencampwriaeth Euro 2020 wedi dechrau. 

I un ysgol ym Mhort Talbot, mae'n gyfle i weld dau gyn ddisgybl yn cynrychioli Cymru.

Yn ôl un o athrawon Ysgol Ystalyfera, mae llwyddiant Ben Davies a Rubin Colwill wedi cael effaith bositif ar yr ysgol a'r disgyblion.

"Mae Ystalyfera ar y map dwi'n credu nawr, nid yn unig o fewn Cymru ond ar draws Ewrop. A pwy a ŵyr, mae Ben yn gapten ar Gymru pan dyw Gareth Bale ddim ar gael. Mae Rubin gobeithio yn mynd i wneud cyfraniad hefyd.

"Mae'r cyfan yn gwerthu enw'r ysgol a hefyd mae'r disgyblion sydd yn bresennol yma nawr gyda'r targed o rywbeth i anelu tuag ato."

Mae gan Mr Bebb atgofion melys o ddyddiau Colwill yn yr ysgol. 

"Dwi'n cofio Rubin fel bachgen 10 oed yn dechrau ei yrfa pêl-droed. Fi'n cofio ar y pryd odd lot o bobl yn sôn am y bachgen yma fel y chwaraewr gore yng Nghymru yn ei oedran. Ag wrth gwrs, o'n i'n edrych ymlaen yn fawr i'w groesawu fe yma i'r ysgol, a bob cam o'r ffordd mae fe wedi datblygu mae e wedi aeddfedu, a mae'n haeddu ei gyfle.

"Heb os, mae wedi cymryd y cyfle gyda dwy law, a ni gyd yn gobeithio nawr fydd e'n cymryd y cam bach nesa' a sgorio gôl fuddugol falle yn yr Euros."

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.