Arestio dau fachgen 12 oed ar amheuaeth o lofruddio dyn 19 oed
Mae dau fachgen 12 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn 19 oed gael ei drywanu i farwolaeth yn Wolverhampton ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fod Shawn Seesahai, 19, wedi marw ar ôl cael ei drywanu ar dir ger Ffordd Laburnum, East Park, ychydig cyn 20:30 nos Lun.
Dywedodd y llu ddydd Mercher fod y ddau fachgen wedi eu harestio yn eu cartrefi nos Fawrth a'u bod yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dave Sanders, o'r tîm llofruddiaethau: “Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Shawn, sydd wedi eu diweddaru'n llawn am y datblygiadau.
"Mae ein hymchwiliad yn symud yn gyflym ac rydym yn parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."
Mae'r llu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 4878 13 Tachwedd.
Llun: Google