Cwpan Cymru JD: Sawl tîm yn anelu i greu sioc yn erbyn cewri'r Cymru Premier
Bydd Caernarfon yn teithio i Gaergybi tra y bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu Llangollen i Neuadd y Parc, wrth i glybiau’r uwch gynghrair ymuno â Chwpan Cymru JD ar gyfer ail rownd y gystadleuaeth.
Bydd y mwyafrif o'r gemau yn cael eu chwarae ddydd Sadwrn, ond bydd saith gêm nos Wener yn cynnig digon o gyffro a chyfle i gymdogion lleol herio'i gilydd.
Yn yr unig gêm rhwng dau o glybiau’r Cymru Premier JD bydd Pen-y-bont yn herio Met Caerdydd, am yr eildro o fewn tridiau wedi’r gêm gyfartal 1-1 ar Gampws Cyncoed nos Fawrth.
Er i’r myfyrwyr daro’n hwyr yn erbyn ceffylau blaen y gynghrair yng nghanol wythnos, dyw Pen-y-bont heb golli mewn chwe gêm yn erbyn Met Caerdydd (ennill 3, cyfartal 3).
Wedi dwy golled yn olynol gartref ar yr Oval, bydd Caernarfon yn gobeithio am well lwc oddi cartref yn erbyn Hotspur Caergybi o’r drydedd haen.
Bydd Y Fflint, Y Bala a’r Seintiau Newydd yn disgwyl curo clybiau o’r ail haen a’r drydedd haen er mwyn camu ‘mlaen i’r rownd nesaf.
Gemau Cwpan Cymru JD - Nos Wener 18 Hydref
Penydarren v Pontypridd
Goytre v Draconiaid Caerdydd
Hotspur Caergybi v Caernarfon
Pen-y-bont v Met Caerdydd
Y Fflint v Gresffordd
Y Bala v Llanrhaeadr
Y Seintiau Newydd v Llangollen