Marwolaeth Adam Johnson: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi marwolaeth y chwaraewr hoci ia Adam Johnson bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Mr Johnson ei daro yn ei wddf gan esgid sglefrio gwrthwynebydd gan achosi anaf angheuol tra'n chwarae i glwb Nottingham Panthers yn erbyn Sheffield Steelers, ar 28 Hydref.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.
Cafodd y dyn ei arestio mewn cysylltiad â’i farwolaeth ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Sir De Efrog ddydd Mercher bod y dyn bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan y Flwyddyn Newydd, wrth i ymholiadau barhau.
Mae’r llu eisoes wedi cadarnhau y bydd post-mortem yn cael ei gynnal wedi i Mr Johnson farw yn sgil anaf angheuol i'w wddf.