Newyddion S4C

Chwyddiant yn arafu i 4.6% i'r raddfa isaf ers dwy flynedd

15/11/2023
Costau

Mae chwyddiant wedi arafu i 4.6% ym mis Hydref yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol. 

Dyma'r raddfa isaf ers dwy flynedd, ac mae'n gyhoeddiad calonogol i'r Prif Weinidog Rishi Sunak wrth iddo geisio cyrraedd ei darged drwy haneru chwyddiant erbyn diwedd y flwyddyn. 

6.7% oedd y raddfa ym mis Medi. Ac mae'r cyhoeddiad fore Mercher yn well na'r disgwyl, gyda dadansoddwyr wedi darogan y byddai'n arafu i 4.7%.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod prisiau nwy wedi gostwng 31% yn y flwyddyn hyd at Hydref, gyda gostyngiad o 15.6% yng nghost trydan. 

Ond mae pris nwy yn dal i fod 60% yn uwch na Hydref 2021 tra bo trydan 40% yn uwch.

Roedd Rishi Sunak wedi addo haneru chwyddiant i raddfa yn is na 5.4% erbyn diwedd y flwyddyn, sy'n golygu ei fod yn debygol o gyrraedd y nod hwnnw, oni bai  y daw naid annisgwyl cyn diwedd y flwyddyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.