Newyddion S4C

Presenoldeb heddlu yn Aberaeron wedi adroddiadau am ddyn yn ymddwyn yn amheus

14/11/2023
Heddlu

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys iddyn nhw dderbyn adroddiadau am ddyn yn ymddwyn yn amheus yn Aberaeron, Ceredigion brynhawn Mawrth, a'i fod o bosibl â chyllell yn ei feddiant.

Cafodd swyddogion yn cynnwys heddlu arfog eu galw i ffordd Panteg yn y dref, a chafodd yr ardal ei harchwilio yn fanwl, medd yr heddlu. Maen nhw hefyd wedi siarad â thystion.  

Cyhoeddodd Ysgol Gyfun Aberaeron rybudd ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer eu disgyblion. 

Image
Post Facebook Ysgol Aberaeron

Yn ôl yr heddlu, does dim adroddiadau pellach wedi dod i law ond maen nhw yn dal i fod yn yr ardal. 

 

 

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.