Agweddau o Undeb Rygbi Cymru yn rhywiaethol, misogynistaidd, hiliol a homoffobig yn ôl ymchwiliad
Agweddau o Undeb Rygbi Cymru yn rhywiaethol, misogynistaidd, hiliol a homoffobig yn ôl ymchwiliad
Mae ymchwiliad annibynnol i Undeb Rygbi Cymru wedi canfod fod agweddau o’r sefydliad yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig.
Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, fe wnaeth yr ymchwiliad gynnig 36 o argymhellion ynglŷn a newidiadau y bydd angen i'r Undeb eu gwneud.
Wrth gyhoeddi'r canfyddiadau, fe wnaeth Cadeirydd URC, Richard Collier-Keywood, ymddiheuro ar ran y sefydliad am y "systemau, strwythurau ac ymddygiad sy’n cael eu disgrifio yn yr adroddiad."
Dyma rai o gasgliadau yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi gan gwmni cyfreithiol Sports Resolutions:
- Roedd rhai agweddau o'r sefydliad yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig, ac nid oedd yr agweddau yma yn cael eu herio'n ddigonol.
- Fe wnaeth yr adroddiad amlygu fod yna “fethiannau llywodraethiant difrifol a diffyg tryloywder” yn ystod y cyfnod dan sylw.
- Roedd elfennau o fwlio a gwahaniaethu yn yr amgylchedd gwaith, gyda rhai gweithwyr yn teimlo ei fod yn amgylchedd “gwenwynig”.
- Fe wnaeth rhai gweithwyr adrodd eu bod wedi teimlo dan straen wrth weithio, tra bod eraill yn teimlo diffyg pŵer ac ofn.
- Roedd ymddygiad rhai gweithwyr yn ymylu ar fwlio, ar rai adegau.
- Roedd enghreifftiau o “ieithwedd wahaniaethol” na chafodd ei herio yn aml.
- Roedd penodiadau i’r bwrdd wedi eu gwneud ar sail “platfformau personol” yn hytrach nag yn seiliedig ar sgiliau.
- Roedd “problemau diwylliannol” oddi mewn i fwrdd yr URC ac yn ehangach, gyda “diffyg amrywiaeth sylweddol” ar y bwrdd yn ogystal. Methodd y bwrdd â gweithredu ar hyn yn dilyn sawl rhybudd.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1724472458193830377?s=20
Argymhellion
Cafodd yr adroddiad ei lunio gan banel o dri, sef y cyn farnwr Dame Anne Rafferty, cyn cadeirydd Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr, Quentin Smith a'r cyn chwaraewr rhyngwladol Lloegr, Maggie Alphonsi MBE.
Mae’r adroddiad yn cynnig 36 argymhelliad ar gyfer gweithdrefnau’r Undeb yn y dyfodol.
Yn eu plith mae:
- Penodi grŵp allanol er mwyn cadw trosolwg o sut mae’r corff yn cael ei redeg, gan gyfarfod bob tri mis am y tair blynedd nesaf.
- Ariannu rygbi menywod a merched yn fwy, gan sicrhau bod cyflogau tîm menywod Cymru yn parhau yn ‘gystadleuol’.
- Cyflwyno ‘prawf person addas’ ar gyfer aelodau newydd o gyngor a bwrdd yr Undeb.
"Gwaith caled i ad-ennill ffydd"
Roedd Cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, yn ogystal â'r Prif Weithredwr newydd, Abi Tierney, fydd yn dechrau fis Ionawr 2024, a Phrif Weithredwr dros dro yr Undeb, Nigel Walker, yn bresennol wrth i'r Undeb gyhoeddi'r adroddiad.
Dywedodd Cadeirydd URC, Richard Collier-Keywood: “Hoffwn ddechrau trwy ymddiheuro ar ran yr Undeb i’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan y systemau, strwythurau ac ymddygiad sy’n cael eu disgrifio yn yr adroddiad. Yn syml – nid oedd hyn yn dderbyniol.
“Mae’n rhaid i ni wella – a byddwn yn gwneud hynny.
“Mae’r adroddiad yn edrych ar ein llywodraethiant, ein diwylliant, ein hagwedd tuag at rygbi merched a menywod ac ymddygiad ein harweinwyr. Nid yw darllen cynnwys yr adroddiad yn hawdd i unrhyw un yng Nghymru sydd â rygbi’n agos at eu calonnau – yn enwedig felly i’r rheiny sy’n gweithio i’r Undeb. Mae’n amlwg na weithredwyd i osgoi y problemau difrifol a nodwyd.
“Mae gennym waith caled i’w wneud i ad-ennill ffydd ein staff, ein chwaraewyr, ein gwirfoddolwyr sydd wrth galon y gêm gymunedol – a’n cefnogwyr ffyddlon sy’n prynu tocynnau’n wythnosol.
“Mae’r adroddiad yma’n cynnig arweiniad gwerthfawr i ni o safbwynt ad-ennill y ffydd a’r ymddiriedaeth hynny."
Honiadau
Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu fis Chwefror eleni, yn dilyn honiadau o hiliaeth, rhywiaeth a chasineb at fenywod yn erbyn yr undeb.
Fis Ionawr, fe ddywedodd dwy fenyw a oedd yn gyn-weithwyr yn yr Undeb wrth y rhaglen BBC Wales Investigates, eu bod nhw wedi ystyried lladd eu hunain ar ôl dioddef rhywiaeth honedig a bwlio o fewn y sefydliad.
Fe wnaeth un fenyw honni ei bod hi wedi ysgrifennu dogfen i’w gŵr am beth i’w wneud ar ôl ei marwolaeth.
Fe wnaeth Charlotte Wathan, a gafodd ei chyflogi gan URC yn 2018 i drawsnewid gêm y menywod, ddweud hefyd bod un dyn yr oedd hi’n gweithio gydag ef wedi dweud ei fod am ei “threisio” hi o flaen staff yn y swyddfa, gan gynnwys uwch reolwr.
Fe wnaeth Prif Weithredwr yr Undeb, Steve Phillips, a’r bwrdd cyfan ymddiswyddo yn dilyn galwadau gan y rhanbarthau rygbi a chefnogwyr iddyn nhw gamu i lawr.
Fis Mawrth, fe wnaeth clybiau rygbi Cymru bleidleisio o blaid newidiadau ysgubol i lywodraethiant Undeb Rygbi Cymru, mewn cyfarfod cyffredinol arbennig ym Mhort Talbot.
Roedd bleidlais yn cynnwys newidiadau i gyfansoddiad y bwrdd, gan sicrhau fod o leiaf pump o 12 aelod y bwrdd yn fenywod.
Yn ddiweddarach, fe gafodd Abi Tierney ei phenodi yn Brif Weithredwr ar yr Undeb, tra bod Nigel Walker, y Prif Weithredwr dros dro yn sgil ymddiswyddiad Steve Phillips, wedi cael swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi.