Codi dros £85,000 ar gyfer trinaeth a allai ymestyn bywyd dyn ifanc â thiwmor yr ymennydd
Mae dros £85,000 wedi ei godi ar gyfer dyn 35 oed o Aberdâr yng Nghwm Cynon, sydd o'r farn bod meddygon wedi ymateb yn rhy araf cyn rhoi diagnosis tiwmor yr ymennydd iddo.
Fe gafodd Matthew Collins ddiagnosis o glioblastoma sef math o ganser yr ymennydd, ym mis Hydref ar ôl iddo gael strôc fis yn gynharach.
Mae e wedi cael gwybod bod ganddo dros flwyddyn i fyw, ond mae e'n gobeithio y bydd modd iddo ddefnyddio'r arian sydd wedi ei godi i ymestyn ei fywyd.
“’Sdim modd gwybod sut i deimlo ar ôl cael gwybod bod gennych chi flwyddyn ar ôl i fyw, er bod chi ‘di bod yn nol a ‘mlaen i’r ysbyty am fisoedd heb iddyn nhw weithredu,” meddai wrth Newyddion S4C
Nid oes modd iddo wella o’r cyflwr, ac mae’n dweud bod diffyg “ystyriaeth” gan feddygon ac arbenigwyr wedi cyfrannu at ddiagnosis hwyr.
Mae’n dweud bod diffyg gweithredu ar ran meddygon yn ystod dyddiau cynnar ei salwch wedi achosi iddo “golli amser” i fyw ei fywyd, ac mae bellach yn ymdrechu i godi £250,000 er mwyn cael triniaeth i ymestyn ei fywyd.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydym yn siomedig iawn i glywed am brofiad Matthew, ac yn ei annog i gysylltu â ni yn uniongyrchol fel y gallwn ymchwilio i’w bryderon mewn mwy o fanylder.”
Ond dywedodd Mr Collins: “Rwy’n teimlo fel 'dw i wedi cael fy ngadael lawr [gan arbenigwyr] oherwydd o’n i’n ymddiried yn y bobl yma.
“Dwi ‘di cael fy siomi oherwydd o’n i angen y sgan MRI yn yr achos cyntaf, a phetai hynny wedi digwydd pan ddywedon nhw y byddai'n digwydd, efallai byswn i wedi gallu osgoi’r strôc.
“Mae’r strôc yn erchyll yn ei hun, ond i gymharu â’r tiwmor, mae’n rhoi hyd yn oed fwy o bersbectif – dwi ‘di cael fy siomi a dwi’n flin am hynny."
‘Methu’
Fe ddechreuodd Mr Collins ddioddef pen tost difrifol ym mis Gorffennaf. Ychydig o ddiwrnodau yn ddiweddarach,cafodd driniaeth yn Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tydfil.
Cafodd ei anfon adre’ ar ôl gwella o’i bwl cyntaf am 02.00 y bore, 24 Gorffennaf. Ond fe gafodd sawl pwl pellach tra yn ei gartref ac yn ôl yn yr ysbyty, ac fe gafodd wybod y byddai’n derbyn sgan MRI fel rhan o’i driniaeth.
10 - 12 mis oedd y cyfnod aros cyn cael sgan, a chyn iddo ei allu ei dderbyn, fe gafodd strôc ar 21 Awst.
Erbyn 29 Medi, roedd yn parhau i ddioddef gyda symptomau difrifol ac fe fynnodd gael sgan MRI. Cafodd tiwmor yr ymennydd ei ddarganfod.
Ar 6 Hydref, fe gafodd lawdriniaeth i gael gwared â’r tiwmor yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. 10 niwrnod wedi’r llawdriniaeth cafodd ddiagnosis o glioblastoma, gyda 12-18 o fisoedd yn weddill i fyw.
Yn ôl Mr Collins, fe fethodd meddygon ar “sawl adeg” i ddod o hyd i’r tiwmor, ac i gymryd ei bryder o ddifrif.
“Petai nhw wedi canfod y tiwmor yn ôl ym mis Gorffennaf, fyddai fyth yn gwybod yn sicr, ond efallai fydden i ddim yn eistedd yma gyda blwyddyn neu flwyddyn a hanner yn unig ar ôl ‘da fi i fyw.
“Dwi methu deall pam na chefais fy nghyfeirio at yr arbenigwr yng Nghaerdydd, fel dyn 35 oed heb unrhyw gyflwr meddygol arall,” meddai.
‘Gobaith’
Mae Mathew Collins bellach yn derbyn triniaeth radiotherapi yn ddyddiol, am gyfnod o chwe wythnos.
Ond mae ymgyrch ar droed i godi arian er mwyn talu am driniaeth arbenigol, sef brechlyn o’r enw Dc-VaxL, allai ymestyn ei fywyd i dair blynedd.
Mae’r brechlyn yn costio £250,000.
Mae e eisoes wedi codi dros £85,000, fydd yn talu am y brechlynnau sydd eu hangen yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ac mae’r ymgyrch eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan y digrifwr Elis James a Phrif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi iddyn nhw rannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Inline Tweet: https://twitter.com/elisjames/status/1722595692164608425
Dywedodd Mr Collins ei fod yn hynod o ddiolchgar am roddion pawb: “mae’n arbennig ond yn llethol,” meddai.